Luc RHAGAIR - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

RHAGAIRWedi iddynt orffen cyfieithu Efengyl Marc yn 1921 aeth pwyllgor Bangor ymlaen o dan lywyddiaeth y diweddar Syr John Morris-Jones i gyfieithu Mathew a Luc. Troswyd dwy bennod ar hugain o’r efengyl gyntaf, a saith bennod o’r drydedd efengyl. Eithr wedi marw Syr John safodd, y gwaith, a gofynnwyd i ni, ddau o aelodau’r pwyllgor a gyfieithodd Efengyl Marc, ail-gydio yn y gwaith a’i orffen cyn gynted ag y byddai modd. Hyderwn y gellir cyhoeddi Efengyl Mathew cyn bo hir.Aethpwyd trwy’r saith bennod gyntaf yn ofalus, ac nis gadawyd heb gyfnewid peth arnynt hwnt ac yma. Ni ein dau sy’n gyfrifol am y rhelyw o’r cyfieithiad. Fe welir na cheisiasom gysoni Luc â Marc yn fanwl yn yr adrannau hynny sy’n gyffredin i’r ddwy efengyl. Ond wrth gyfieithu Efengylau Luc a Mathew cymharwyd hwy’n ofalus er cael y cysondeb a ddylai fod rhwng yr efengylau cyfolwg, ac er dangos hefyd y mân wahaniaethau sydd rhyngddynt.Hyderwn y ceir cyfle, cyn i’r tair efengyl ymddangos gyda’i gilydd, i gyfnewid cymaint ag a fydd yn angenrheidiol ar yr efengyl hynaf er mwyn ei dwyn i gydymffurfio â’r ddwy arall.Testun Nestle a ddilynwyd wrth gyfieithu. D. Emrys Evans.

Ifor Williams.

Medi. 1943.Yn ôl Luc
Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help