1Ac aeth drachefn i synagog, ac yr oedd yno ddyn a’i law wedi gwywo;
2a gwylient ef, a fyddai iddo ei iacháu ar y Sabath, fel y cyhuddent ef.
3Ac eb ef wrth y dyn a’r llaw wywedig, “Cyfod i’r canol.”
4Ac eb ef wrthynt hwy, “A ddylid ar y Sabath wneuthur da, ai gwneuthur drwg? achub einioes, ai lladd?” Ond tewi a wnaent hwy.
5Ac wedi syllu ogylch arnynt yn ddigllon, gan ddwys-ofidio am ddallineb eu calon hwynt, fe ddywed wrth y dyn, “Estyn dy law.” Ac fe’i hestynnodd, ac adferwyd ei law.
6Ac aeth y Phariseaid allan, ac yn ebrwydd ymgynghorent â’r Herodianiaid yn ei erbyn, pa fodd y difethent ef.
7A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr; a lliaws mawr o Galilea a’i dilynodd;
8ac o Iwdea ac o Gaersalem ac Idwmea a thu hwnt i’r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, yn clywed gymaint a wnai, a ddaeth ato.
9A dywedodd wrth ei ddisgyblion am i gwch fod yn barod iddo oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu.
10Canys llawer a iachasai ef, nes ymwthio ato i gyffwrdd ag ef bawb oedd dan blâu.
11A’r ysbrydion aflan, pa bryd bynnag y gwelent ef, syrthient ger ei fron, a gwaeddent, gan ddywedyd, “Ti yw Mab Duw.”
12A rhybuddiai lawer arnynt nas amlygent ef.
13Ac fe esgyn i’r mynydd, a geilw ato y rhai a fynnai ef, ac aethant allan ato.
14A phenododd ddeuddeg i fod gydag ef, ac iddo’u danfon i bregethu,
15ac i feddu awdurdod i fwrw allan y cythreuliaid;
16a phenododd y deuddeg: Simon, ac iddo ef y rhoes yn enw Pedr;
17ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes iddynt hwy yn enw Boanerges, hynny yw Meibion y Daran;
18ac Andreas, a Phylip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alpheus, a Thadeus, a Simon y Selot,
19ac Iwdas Iscariot, yr hwn a’i bradychodd ef.
20A daw i’r tŷ; ac ymgynulla’r dyrfa drachefn, fel na allant gymaint â bwyta bara.
21A phan glywodd ei berthynasau, aethant ymaith i’w ddal; canys dywedent, “Y mae wedi gwallgofi.”
22A’r ysgrifenyddion a ddeuthai i lawr o Gaersalem a ddywedai, “Beelsebwl sydd ganddo”; a hefyd, “trwy bennaeth y cythreuliaid y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.”
23A galwodd hwynt ato, a dywedai wrthynt ar ddamhegion, “Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?”
24ac, “Os teyrnas a ymranna yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll;
25ac os teulu a ymranna yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y teulu hwnnw sefyll.
26Ac os Satan a gyfododd yn ei erbyn ei hun, ac ymrannu, ni ddichon sefyll, eithr dyna ddiwedd arno.
27Eithr ni ddichon neb fynd i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio’i ddodrefn ef, oni rwymo’r cadarn yn gyntaf, ac yna’r ysbeilia’i dŷ ef.
28Yn wir, meddaf i chwi, popeth a faddeuir i blant dynion, y pechodau a’r cableddau, pa bethau bynnag a gablont;
29ond pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nid oes iddo faddeuant yn dragywydd, eithr euog ydyw o dragwyddol bechod.”
30Canys dywedent, “Ysbryd aflan sydd ganddo.”
31A daw ei fam a’i frodyr, a chan sefyll oddi allan, anfonasant ato i alw arno.
32Ac eisteddai torf o’i gylch, a dywedant wrtho, “Dyma dy fam a’th frodyr oddi allan yn dy geisio.”
33A chan ateb fe ddywed wrthynt, “Pwy yw fy mam a’m brodyr?”
34A chan syllu o amgylch ar y rhai a eisteddai’n gylch o’i gwmpas, fe ddywed, “Dyma fy mam a’m brodyr.
35Pwy bynnag a wnêl ewyllys Duw, hwnnw sy frawd i mi, a chwaer, a mam.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.