1Oherwydd hyn, yr wyf i, Paul, carcharor Crist Iesu drosoch chwi’r cenhedloedd—
2a bwrw eich bod wedi clywed am oruchwyliaeth gras Duw a roddwyd i mi ar eich cyfer chwi,
3fel yr amlygwyd i mi y dirgelwch mewn datguddiad, megis yr ysgrifennais o’r blaen mewn byr eiriau,
4fel y gellwch, wrth ddarllen, ddeall fy nirnadaeth i yn nirgelwch y Crist;
5yr hwn ni wnaed yn hysbys yn yr oesoedd o’r blaen i feibion dynion fel y datguddiwyd ef yn awr i’w santaidd apostolion a’i broffwydi yn yr ysbryd,
6sef bod y cenhedloedd yn gyd-etifeddion ac yn gyd-gorff ac yn gyd-gyfranogion o’r addewid yng Nghrist Iesu
7trwy’r efengyl y gwnaed fi’n weinidog iddi yn ôl dawn gras Duw a roddwyd i ni yn ôl egni ei allu ef.
8I mi’r lleiaf un o’r holl saint y rhoddwyd y gras hwn, i gyhoeddi efengyl i’r cenhedloedd
9am anchwiliadwy gyfoeth y Crist ac i egluro beth yw goruchwyliaeth y dirgelwch a oedd yn guddiedig rhag yr oesoedd yn Nuw, creawdwr popeth,
10fel yr hysbysid yn awr i’r llywodraethau a’r awdurdodau yn y nefolion leoedd drwy’r eglwys amryw dryfrith ddoethineb Duw,
11yn ôl arfaeth oesol a wnaeth yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni,
12yr hwn y mae gennym ynddo ehofndra a mynediad mewn hyder drwy ffydd ynddo ef.
13Am hynny, yr wyf yn erfyn na lyfrhaoch wrth fy nhrallodion i drosoch chwi; hwy yw eich gogoniant chwi.
14Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad
15yr hwn yr enwir pob tadolaeth yn y nefoedd ac ar y ddaear oddi wrtho, ar iddo, yn ôl golud ei ogoniant ef,
16roddi i chwi eich grymuso â nerth drwy ei ysbryd ef yn y dyn oddi mewn,
17a phreswylio o’r Crist drwy ffydd yn eich calonnau,
18ac i chwithau, wedi eich gwreiddio a’ch sylfaenu mewn cariad, gael nerth i amgyffred gyda’r holl saint beth yw’r lled a’r hyd a’r uchder a’r dyfnder,
19a gwybod cariad Crist sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y cyflawner chwi hyd at holl gyflawnder Duw.
20Iddo ef sydd yn alluog i wneuthur uwchlaw popeth ymhell tu hwnt i’r hyn a ofynnwn neu a ddychmygwn, yn ôl y gallu sydd yn egni ynom,
21iddo ef y gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu hyd yr holl genedlaethau yn oes oesoedd. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.