1A minnau wrth ddyfod atoch, frodyr, nid ym mraint rhagoriaeth ymadrodd neu ddoethineb y deuthum, gan gyhoeddi i chwi’r dystiolaeth am Dduw.
2Canys ni honnais wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist a hwnnw yn groeshoeliedig.
3A myfi, mewn gwendid ac mewn ofn ac mewn cryndod mawr y deuthum hyd atoch;
4a dull fy ymadrodd i a’m pregeth i, ni bu â dengar eiriau doethineb, eithr ag amlygiad ysbryd a gallu,
5fel na orffwysai eich ffydd chwi ar ddoethineb dynion ond ar allu Duw.
6Doethineb, yn wir, yr ydym yn ei llefaru ym mysg y rhai perffaith, ond doethineb nid eiddo’r byd hwn, nac ychwaith eiddo penaethiaid y byd hwn, y rhai y mae eu grym yn darfod.
7Eithr llefaru yr ydym ddoethineb Duw mewn cyfrinach, y ddoethineb annatguddiedig, a ragderfynodd Duw cyn yr oesoedd er gogoniant i ni;
8yr hon nid adnabu neb o benaethiaid y byd hwn, canys pes adnabuasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant;
9Eithr fel y mae’n ysgrifenedig, Pethau ni welodd llygad ac nis clybu clust, ac nid esgynnodd i galon dyn, yr holl bethau a baratôdd Duw i’r rhai a’i caro.
10Canys i ni, datguddiodd Duw trwy’r Ysbryd, oherwydd yr ysbryd sydd yn olrhain pob peth, ie, dyfnion bethau Duw hefyd.
11Canys pa ddyn a ŵyr bethau dyn, ond ysbryd dyn, sef yr ysbryd sydd ynddo? felly hefyd bethau Duw, nis gŵyr neb namyn ysbryd Duw.
12A ninnau nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr ysbryd sydd o Dduw, fel y gwypom y pethau a rad-roddwyd i ni gan Dduw;
13pethau hefyd yr ydym yn eu llafaru, nid mewn ymadroddion a ddysgwyd trwy ddoethineb ddynol, ond a ddysgwyd trwy’r Ysbryd, gan gymhwyso pethau ysbrydol at ysbrydolion.
14Ond am ddyn anianol, ni dderbyn ef bethau ysbryd Duw, canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac ni ddichon wybod mai yn ysbrydol y bernir hwynt;
15ond y mae’r dyn ysbrydol yn barnu popeth, ond ef ei hun nis bernir gan neb.
16Canys pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef?
Esa. 40:13. eithr nyni, y mae gennym feddwl Crist.Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.