Mathew 19 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A phan orffennodd yr Iesu’r geiriau hyn, fe symudodd o Galilea i ororau Iwdea tu hwnt i’r Iorddonen.

2A dilynodd tyrfaoedd lawer ef, ac fe’u hiachaodd hwynt yno.

3A daeth ato Phariseaid i’w brofi gan ddywedyd, “Ai iawn i ddyn ysgar â’i wraig am bob rhyw achos?”

4Atebodd yntau a dywedodd, “Oni ddarllenasoch i’r Crëwr o’r dechrau eu gwneuthur yn wryw a benyw,

5ac iddo ddywedyd Oherwydd hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd?

6Felly nid ydynt mwyach ddau ond un cnawd. Y peth gan hynny a ieuodd Duw, na wahaned dyn.”

7Meddant wrtho, “Paham, ynteu, y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgar,

8a’i gollwng hi ymaith?” Medd ef wrthynt, “Moses, oherwydd eich calon-galedwch chwi, a ganiataodd i chwi ysgar â’ch gwragedd; ond ni bu felly o’r dechreuad.

9Meddaf i chwi, pwy bynnag a ysgaro â’i wraig oddieithr am anniweirdeb, ac a briodo un arall, y mae’n godinebu.”

10Medd ei ddisgyblion wrtho, “Os felly y mae perthynas gŵr â’i wraig, ni thâl priodi.”

11Dywedodd yntau wrthynt, “Nid pawb a all dderbyn y gair hwn, eithr y rhai y rhoddwyd iddynt.

12Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam, ac y mae eunuchiaid a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion, ac y mae eunuchiaid a’u gwnaeth eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.”

13Yna dygwyd ato blant bach, fel y dodai ei ddwylo arnynt, a gweddïo; a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt.

14Ond yr Iesu a ddywedodd, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf i, ac na rwystrwch hwynt; canys rhai fel hwy biau deyrnas nefoedd.”

15Ac wedi dodi ei ddwylo arnynt, fe aeth oddi yno.

16A dyna un yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho, “Athro, pa dda a wnaf i gael bywyd tragwyddol?”

17Dywedodd yntau wrtho, “Paham yr holi fi am y da? Un yn unig sydd dda; ond os mynni fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion.”

18Medd ef wrtho, “Pa rai?” Meddai’r Iesu, “Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na chamdystiolaetha,

19Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun.”

20Medd y dyn ieuanc wrtho, “Y rhain oll a gedwais; beth sydd eto ar ôl ynof?”

21Meddai’r Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sy gennyt, a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyred, dilyn fi.”

22Pan glywodd y dyn ieuanc y gair, aeth ymaith yn ofidus; canys yr oedd yn berchen meddiannau lawer.

23A dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, “Yn wir meddaf i chwi mai’n anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd.

24A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fynd trwy grau nodwydd na goludog i mewn i deyrnas Dduw.”

25A phan glywodd y disgyblion, synnent yn ddirfawr, gan ddywedyd, “Pwy ynteu a all gael ei gadw?”

26Edrychodd yr Iesu arnynt a dywedodd, “Ym myd dynion y mae hyn yn amhosibl, ond ym myd Duw popeth sy bosibl.”

27Yna atebodd Pedr iddo, “Dyma ni wedi gadael popeth a’th ddilyn di; beth ynteu a fydd i ni?”

28A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, cewch chwi a’m dilynodd i, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth Israel.

29A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i a dderbyn lawer gwaith cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda.

30Ond llawer o’r rhai blaenaf a fydd yn olaf, ac o’r rhai olaf yn flaenaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help