1A phan nesasant at Gaersalem, a dyfod i Fethphage ar Fynydd yr Olewydd, yna anfonodd Iesu ddau ddisgybl,
2gan ddywedyd wrthynt, “Ewch i’r pentref sy gyferbyn â chwi, ac yn y fan chwi gewch asen yn rhwym ac ebol gyda hi; gollyngwch a dygwch i mi.
3Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, ‘Mae ar yr Arglwydd eu heisiau’; ac yn y fan fe’u henfyn.”
4A hyn a fu fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan y proffwyd,
5 Dywedwch i ferch Seion,
Wele dy Frenin yn dyfod,
yn addfwyn ac yn eistedd ar asen,
ac ar ebol o lwdn asyn.
6Ac aeth y disgyblion, a gwneuthur fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt,
7a dygasant yr asen a’r ebol, a dodi arnynt eu dillad, ac eisteddodd yntau arnynt.
8A’r rhan fwyaf o’r dyrfa a daenodd eu dillad ar y ffordd, ac eraill yn torri brigau o’r coed ac yn eu taenu ar y ffordd.
9A’r tyrfaoedd, a’i rhagflaenai ac a’i dilynai, oedd yn llefain, gan ddywedyd —
Hosanna i Fab Dafydd;
Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd;
Hosanna yn y goruchafion.
10A phan ddaeth ef i Gaersalem, cynhyrfwyd yr holl ddinas, gan ddywedyd “Pwy yw hwn?”
11A dywedai’r tyrfaoedd, “Hwn yw’r proffwyd Iesu o Nasareth Galilea.”
12Ac aeth Iesu i mewn i’r deml, a bwriodd allan yr holl weithwyr a phrynwyr yn y deml; a dymchwelodd fyrddau’r cyfnewidwyr arian, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod;
13ac medd ef wrthynt, “Ysgrifennwyd, Fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi, ond gwnewch chwi ef yn ogof lladron.”
14A daeth ato ddeillion a chloffion yn y deml, ac fe’u hiachaodd hwynt.
15A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaeth ef, a’r plant a oedd yn gweiddi yn y deml ac yn dywedyd “Hosanna i Fab Dafydd,” digiasant,
16a dywedasant wrtho, “A glywi di beth a ddywed y rhain?” Ac medd yr Iesu wrthynt, “Clywaf; oni ddarllenasoch erioed O enau plant bach a rhai’n sugno y darperaist iti fawl?”
17A gadawodd hwynt ac aeth allan o’r ddinas, i Fethania, a threuliodd y nos yno.
18A’r bore, wrth ddychwelyd i’r ddinas, daeth arno eisiau bwyd.
19Ac wedi gweled rhyw ffigysbren ar y ffordd, daeth ato, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn unig; ac medd ef wrtho, “Mwyach na ddeled ffrwyth ohonof ti byth bythoedd.” A chrinodd y ffigysbren ar unwaith.
20A phan welodd y disgyblion, rhyfeddasant, gan ddywedyd, “Pa fodd y crinodd y ffigysbren ar unwaith?”
21Atebodd yr Iesu iddynt, “Yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd a heb amau, nid yn unig chwi wnewch yr hyn a wnaed i’r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn ‘Coder di, a bwrier di i’r môr,’ hynny a fydd.
22A phopeth a ofynnoch mewn gweddi gan gredu, chwi a’i cewch.”
23Ac wedi iddo ddyfod i’r deml, pan oedd yn dysgu daeth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl ato, a dywedasant, “Drwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn? a phwy a roes i ti’r awdurdod hwn?”
24Atebodd yr Iesu iddynt, “Mi ofynnaf innau i chwi un gair, ac os dywedwch imi hynny, dywedaf innau i chwi drwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn:
25bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef ai o ddynion?” Ymresyment hwythau ynddynt eu hunain, gan ddywedyd, “Os dywedwn, ‘O’r nef,’ fe ddywed wrthym, ‘Paham ynteu nas credasoch?’
26Ac os dywedwn ‘O ddynion,’ y mae arnom ofn y dyrfa; canys y mae pawb yn cyfrif Ioan yn broffwyd.”
27Ac atebasant yr Iesu, “Nis gwyddom.” Ac meddai yntau wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.
28Ond beth a debygwch chwi? Yr oedd gan ddyn ddau o blant; fe aeth at y cyntaf, a dywedodd, ‘Fy mab, dos heddiw, gweithia yn y winllan.’
29-30Atebodd yntau, ‘Gwnaf i, syr,’ ac eto nid aeth. Ac aeth at yr ail, a dywedodd yr un modd. Atebodd yntau, ‘Nac af’; wedi hynny edifarodd, ac aeth.
31Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad?” Meddant hwy, “Yr olaf.” Medd yr Iesu wrthynt, “Yn wir, meddaf i chwi, fe â’r trethwyr a’r puteiniaid o’ch blaen chwi i mewn i deyrnas Dduw.
32Canys daeth Ioan atoch gyda ffordd uniondeb, ac nis credasoch; ond credodd y trethwyr a’r puteiniaid ef; gwelsoch chwithau, ac nid edifarhasoch hyd yn oed wedyn a’i gredu.
33Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o benteulu a blannodd winllan, a chaeodd o’i hamgylch, a chloddiodd ynddi gafn, ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref.
34A phan nesaodd amser ffrwythau, anfonodd ei weision at y llafurwyr i gael ei ffrwythau;
35a dal ei weision a wnaeth y llafurwyr, a churo un, a lladd un arall, a llabyddio un arall.
36Drachefn anfonodd weision eraill, mwy eu nifer na’r rhai cyntaf, a gwnaethant iddynt yr un modd.
37Wedi hynny anfonodd atynt ei fab, gan ddywedyd, ‘Parchant fy mab.’
38Ond pan welodd y llafurwyr y mab, dywedasant yn eu plith eu hunain, ‘Hwn yw’r etifedd; dowch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’
39A’i ddal a wnaethant, a’i fwrw allan o’r winllan, a’i ladd.
40Pan ddêl perchen y winllan, ynteu, pa beth a wna i’r llafurwyr hynny?”
41Meddant wrtho, “Fe’u difetha’n llwyr, y dyhirod, a’r winllan a esyd i lafurwyr eraill, a dâl iddo’r ffrwythau yn eu hamseroedd.”
42Medd yr Iesu wrthynt, “Oni ddarllenasoch erioed yn yr ysgrythurau,
Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
hwn a ddaeth yn ben y gongl:
Gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,
ac y mae’n rhyfedd yn ein golwg ni?
43Am hynny, meddaf i chwi, y dygir oddi arnoch deyrnas Dduw, ac y rhoddir i genedl yn dwyn ei ffrwythau hi.
44A’r neb a syrth ar y maen hwn a ddryllir, ac ar bwy bynnag y syrthio, fe’i mâl.”
45A phan glywodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion, deallasant mai amdanynt hwy y soniai;
46ac a hwy’n ceisio cael gafael arno, daeth ofn y tyrfaoedd arnynt, am eu bod yn ei gyfrif ef yn broffwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.