Iago 1 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Iago, gwas Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, llawenydd i chwi.

2Ystyriwch hi’n llawenydd llwyr, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau,

3a chwi yn gwybod bod y peth sy ddilys yn eich ffydd yn gweithio amynedd.

4A chaffed amynedd gyflawn waith, fel y boch gyflawn a chwbl gyfan, heb fod arnoch ddiffyg mewn dim.

5Ond od oes ar neb ohonoch ddiffyg doethineb, gofynned gan Dduw, sy’n rhoddi i bawb yn rhad, ac heb ddanod, ac fe’i rhoddir iddo:

6eithr gofynned mewn ffydd, heb ameu dim, canys tebyg yw’r sawl a amheuo i ymchwydd y môr, a yrrir gan y gwynt ac a chwelir.

7Canys na thybied y dyn hwnnw y derbyn ef ddim gan yr Arglwydd

8— gŵr dau feddwl, anwadal yn ei holl ffyrdd.

9Ymffrostied y brawd distadl yn ei uchel radd,

10y cyfoethog yntau yn ei ddistadledd, canys megis blodeuyn y borfa y diflanna ef.

11Canys, wele, cyfyd yr haul gyda’i fawr wres, a pheri crino o’r borfa, a chwympo o’i blodeuyn ymaith

ac yntau nid yw yn temtio neb.

14Ond temtir pob un, pan dynner ef a’i lithio gan ei chwant ei hun.

15Yna bydd chwant, wedi ymddwyn, yn esgor ar bechod, a phechod, wedi llawn dyfu, yn dwyn marwolaeth.

16Na chyfeiliornwch, fy mrodyr annwyl.

17Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd gyflawn, oddi uchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dad y goleuadau, na ddichon bod ynddo na chyfnewidiad na chysgod yn herwydd troi.

18O fwriad y cenhedlodd ef nyni â gair gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef.

19Gwybyddwch hyn, fy mrodyr annwyl. Ond bydded pob dyn esgud i wrando, araf i lefaru, araf i ddigofaint,

20canys digofaint gŵr ni chyflawna gyfiawnder Duw.

21Am hynny, gan roddi heibio bob aflendid a helaethrwydd drygioni, mewn addfwynder derbyniwch y gair, sydd ynoch yn gynhenid ac a ddichon gadw eich eneidiau.

22Ond byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich camarwain eich hunain.

23Oblegid, od yw neb wrandawr y gair heb fod yn wneuthurwr, cyffelyb fydd hwnnw i ŵr edrycho’i wynepryd naturiol mewn drych;

24canys fe’i hedrychodd ei hun, aeth ymaith, ac yn y fan anghofiodd pa fath un ydoedd.

25Ond y neb a syllo ar berffaith gyfraith rhyddid, a pharhau felly, heb fod yn wrandawr anghofus, eithr yn wneuthurwr gweithgar, dedwydd fydd hwnnw yn ei waith.

26O thyb neb ei fod yn ddefosiynol, heb ffrwyno’i dafod, ond twyllo’i galon ei hun, ofer fydd defosiwn hwnnw.

27Defosiwn pur a dihalog yng ngolwg Duw a’r Tad yw hyn: gofalu am yr amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help