1A Yr wyf i, Pawl, yn erfyn arnoch er mwyn addfwynder a thiriondeb Crist — myfi “sydd mor ostyngedig pan fyddwyf yn eich plith, wyneb yn wyneb, ond yn dangos cryn hyder tuag atoch pan fyddwyf yn absennol” —
2yr wyf yn crefu arnoch na bo galw arnaf pan ddelwyf i’ch plith, i ddangos yn eofn y cyfryw hyder y bwriadaf anturio arno, tuag at rywrai sy’n tybied mai yn ôl y cnawd y rhodiwn.
3Canys er ein bod yn rhodio yn y cnawd nid yn ôl y cnawd yr ydym yn milwrio,
4oblegid arfau ein milwriaeth nid cnawdol mohonynt, eithr nerthol dros Dduw ydynt i dynnu cestyll i’r llawr
5trwy ddymchwel ymresymiadau a phob gwrthglawdd a ddyrchefir yn erbyn gwybodaeth o Dduw a dwyn pob bwriad yn gaeth fel y byddo’n ufudd i Grist.
6Parod ydym hefyd i gosbi pob anufudd-dod pan gyflawner eich ufudd-dod chwi.
7Ar yr hyn sydd yn y golwg yr edrychwch. Os bu i neb ei ddarbwyllo’i hun ei fod yn eiddo i Grist, ystyried hyn drachefn rhyngddo ac ef ei hun, megis y mae ef yn eiddo i Grist felly ninnau hefyd.
8Canys os ymffrostiaf braidd yn ormod gyda golwg ar yr awdurdod a roddes yr Arglwydd inni er adeiladaeth ac nid er dinistr i chwi, ni’m cywilyddir —
9er na fynnwn ymddangos fel pe bawn am eich dychrynu trwy lythyrau.
10Canys, meddir, y mae’r llythyrau yn bwysfawr a grymus, ond y mae presenoldeb y corff yn edlychaidd a’r ymadrodd yn gwbl ddirmygedig.
11Ystyried y cyfryw un hynyma, mai megis yr ydym ar air mewn llythyrau pan fyddom yn absennol felly hefyd yr ydym mewn gweithred pan fyddom yn bresennol.
12Canys ni feiddiwn ein rhestru ein hunain ymhlith rhai o’r rheini sy’n eu cymeradwyo eu hunain na’n cymharu ein hunain â hwynt. Ond nid ydynt hwy, wrth eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain ac wrth eu barnu eu hunain wrthynt eu hunain, yn dangos deallgarwch.
13Ond nyni nid ymffrostiwn yn ddifesur, eithr yn ôl mesur y rhandir a rannodd Duw yn fesur i ni y cyraeddasom hyd atoch chwithau.
14Canys nid ydym, fel pe baem heb ddyfod atoch chwi, yn gor-ymestyn dros y terfyn, oherwydd atoch chwithau y daethom gyda’r cyntaf, yng ngwasanaeth efengyl Crist.
15Nid ydym yn rhedeg i eithafion gan ymffrostio yn ymdrechion llafurus pobl eraill, eithr gobeithio yr ydym y bydd cynnydd dirfawr yn ein rhandir trwy gynnydd eich ffydd chwi,
16fel y gallom gyhoeddi’r efengyl y tu hwnt i’ch terfynau chwi yn hytrach nag ymffrostio yn yr hyn a gyflawnwyd eisoes yn rhandir rhywun arall.
17Y neb sy’n ymffrostio ymffrostied yn yr Arglwydd.
Ier. 9:24.18Canys nid y sawl sy’n ei gymeradwyo ei hun sydd dderbyniol ond y sawl y mae’r Arglwydd yn ei gymeradwyo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.