1Am hynny, ninnau hefyd gan fod gennym gymaint cwmwl o dystion o’n hamgylch, bwriwn ymaith bob trymlwyth a’r pechod sy’n barod i ymglymu amdanom, a rhedwn yn ddygn y cwrs sydd yn ymestyn o’n blaen,
2gan gadw ein golwg ar bennaeth a chwblhawr y ffydd, Iesu, yr hwn er mwyn y llawenydd a oedd yn ei aros, a ymddygnodd dan groes gan iddo ddiystyru gwarth, ac y sydd yn eistedd ar ddeheulaw gorsedd Duw.
3Canys, ystyriwch yr hwn a ymddygnodd dan y fath elyniaeth tuag ato gan bechaduriaid, rhag i chwi ymollwng yn eich eneidiau a blino.
4Hyd yn hyn nid ydych wedi gwrthsefyll hyd at waed yn eich brwydr yn erbyn pechod,
5ac yr ydych wedi anghofio’r anogaeth sydd yn ymliw â chwi megis â meibion,
“Fy mab, na fydd ddibris o ddisgyblaeth yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan argyhoedder di ganddo;
6canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu y mae’n ei ddisgyblu, ac y mae’n curo pob mab y mae’n ei arddel.”
7Ymddygnwch er disgyblaeth; fel at feibion y mae Duw yn ymddwyn atoch. Canys pa fab nad yw ei dad yn ei ddisgyblu?
8Ond os ydych heb ddisgyblaeth, yr hon y mae pawb yn gyfrannog ohoni, yna bastardiaid ydych ac nid meibion.
9Heblaw hynny, yr oedd gennym dadau i’n cnawd ni yn ein disgyblu, a pharchem hwynt. Onid oes mwy o lawer o achos i ni ymddarostwng i dad ein hysbrydoedd, a byw?
10Canys am ychydig ddyddiau, ac fel y gwelent yn dda, y byddent hwy yn disgyblu, ond hwn er ein lles, er mwyn inni fod yn gyfrannog o’i santeiddrwydd ef.
11Canys nid oes yr un ddisgyblaeth dros yr amser presennol yn edrych yn beth hyfryd ond yn beth gofidus, ond wedi hynny y mae’n talu’n ôl mewn heddychlon ffrwyth cyfiawnder i’r rhai a fu dan ei goruchwyliaeth hi.
12Am hynny, unionwch y dwylo sydd wedi llaesu a’r gliniau sydd wedi ymollwng,
13a gwnewch lwybrau union i’ch traed rhag troi’r aelod cloff o’i le ond yn hytrach ei iacháu.
14Dilynwch dangnefedd gyda phawb, a’r santeiddhad na wêl neb yr Arglwydd hebddo,
15gan wylio na bo neb yn syrthio’n ôl o ras Duw, na bo un gwreiddyn chwerwedd yn codi ei ben ac yn peri blinder a llygru’r lliaws drwyddo,
16na bo un puteiniwr na halog megis Esau, a roddodd freintiau ei enedigaeth yn gyfnewid am un pryd o fwyd.
17Canys gwyddoch iddo ef hefyd, pan oedd wedi hynny yn ewyllysio etifeddu’r fendith, gael ei wrthod, — oherwydd ni chafodd gyfle i ailfeddwl, — er iddo gyda dagrau grefu amdani.
18Yn awr, nid at dân y gellir ei deimlo ac y sydd yn llosgi y daethoch, ac at gaddug a mwrllwch a chorwynt
19a bloedd utgorn a llais gorchmynion, nes i’r rhai a’i clywodd ddeisyfu nad ychwanegid gair wrthynt,
20oherwydd na allent oddef y gorchymyn, “ac os cyffwrdd hyd yn oed anifail â’r mynydd, llabyddier ef.”
21Ac mor ofnadwy oedd yr olwg fel y dywedodd Moses, Yr wyf wedi dychryn ac yn crynu.
22Ond at fynydd Seion y daethoch ac at ddinas y Duw byw, y Gaersalem nefol, a myrddiynau o angylion,
23cymanfa a chynulleidfa rhai cyntafanedig sydd â’u henwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd, ac at Dduw, farnwr pawb, ac at ysbrydoedd rhai cyfiawn sydd wedi eu perffeithio, ac at Iesu,
24cyfryngwr cyfamod newydd, ac at waed taenelliad sydd yn dywedyd peth gwell nag Abel.
25Edrychwch na ddeisyfoch rhag clywed yr hwn sy’n llefaru, canys oni ddihangodd y rhai a ddeisyfodd rhag clywed yr hwn oedd yn cyhoeddi ar y ddaear, mwy o lawer, ni wrth droi ymaith oddi wrth yr hwn sy’n cyhoeddi o’r nefoedd;
26siglodd llais hwn y ddaear y pryd hynny, ond yn awr, y mae wedi addo gan ddywedyd, eto unwaith mi a siglaf nid yn unig y ddaear ond y nef hefyd.
27Ond y mae’r unwaith eto hwn yn golygu symud y pethau a siglir megis pethau creëdig, fel yr arhoso’r pethau di-sigl.
28Am hynny, gan mai teyrnas ddi-sigl yr ydym yn ei derbyn, byddwn ddiolchgar, a thrwy hynny gwasanaethwn Dduw wrth ei fodd, â pharch ac ofn.
29Canys yn wir ein Duw ni sydd dân ysol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.