1 Corinthiaid 11 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Byddwch efelychwyr i mi, megis yr wyf innau hefyd i Grist.

2Yr wyf yn eich canmol chwi oblegid eich bod yn cofio amdanaf ym mhob dim, ac yn dal at y traddodiadau megis y traddodais i chwi.

3Mynnwn i chwi wybod mai pen pob gŵr yw Crist, a phen gwraig yw ei gŵr, a phen Crist yw Duw.

4Pob gŵr a weddïo neu a broffwydo â chanddo rywbeth am ei ben, y mae’n bwrw anfri ar ei ben.

5A phob gwraig a weddïo neu a broffwydo a’i phen yn ddiorchudd, y mae’n bwrw anfri ar ei phen hithau. Canys un ydyw ac unfath â’r eilliedig.

6Canys os gwraig ni ddwg orchudd, cneifier hithau hefyd. Gwarthus i wraig yw torri ei gwallt neu eillio ei phen. Gwisged orchudd.

7Canys gŵr ni ddylai fod a’i ben tan orchudd, ac yntau’n ddelw a gogoniant Duw.

gymryd torth,

24ac wedi diolch, ei thorri, a dywedyd: Dyma fy nghorff, y sydd eroch chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf i.

25Yr un modd, y cwpan hefyd, gwedi swper, gan ddywedyd: Y cwpan hwn, y cyfamod newydd ydyw yn y gwaed mau.Mat. 26:28. Gwnewch hyn, gynifer gwaith bynnag yr yfoch, er cof amdanaf i.

26Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn ac yr yfoch y cwpan, marwolaeth yr Arglwydd yr ydych yn ei chyhoeddi nes ei ddyfod (drachefn).

27Felly, y neb a fwytao’r bara neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn anheilwng, euog fydd o gorff ac o waed yr Arglwydd.

28Ond, profed dyn ef ei hun, ac felly’n unig bwytaed o’r dorth ac yfed o’r cwpan.

29Canys y neb sy’n bwyta ac yn yfed, barn iddo’i hun y mae’n ei bwyta a’i hyfed, oni iawn farno’r corff.

30Dyna paham y mae llawer yn eich plith chwi yn weiniaid a nychlyd, a chryn nifer yn huno.

31Ond pe’n barnem ein hunain, yna ni’n bernid.

32A phan fernir ni gan yr Arglwydd, fe’n disgyblir, fel na’n collfarner gyda’r byd.

33Felly, fy mrodyr, pan ddeloch ynghŷd i’r bwyta, disgwyliwch bawb ei gilydd.

34Od oes neb â newyn arno, bwytaed yn tŷ, fel nad i farn y deloch ynghŷd. A phopeth arall, pan ddelwyf mi a’u trefnaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help