1Beth, gan hynny, a ddywedwn i Abraham, ein cyndad yn ôl y cnawd, ei ennill?
2Oblegid os o weithredoedd y cyfiawnhawyd Abraham, y mae iddo ymffrost, ond nid gerbron Duw.
3Oherwydd beth a ddywed yr Ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw, ac fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
9Y gwynfyd hwn, yn awr, ai i’r enwaediad y mae ai i’r dienwaediad hefyd? Oherwydd dywedyd yr ydym: Cyfrifwyd i Abraham ffydd yn gyfiawnder.
Gen. 15:6.10Pa fodd, ynteu, y cyfrifwyd? Ai iddo yn enwaededig neu yn ddienwaededig? Nid enwaededig, ond dienwaededig;
11a derbyniodd arwydd enwaediad,
Gen. 17:10, 11. sêl cyfiawnder y ffydd a oedd ganddo yn ddienwaededig, fel y byddai ef dad pawb a gred o’r dienwaediad, fel y cyfrifid iddynt gyfiawnder,12a thad yr enwaediad, i’r rhai sydd nid yn unig o’r enwaediad, ond sydd hefyd yn cerdded llwybrau ffydd ein tad Abraham, ac yntau’n ddienwaededig.
13Canys nid drwy ddeddf y bu’r addewid i Abraham nac i’w had, ei fod ef yn etifedd byd, ond drwy gyfiawnder ffydd.
14Canys os y rhai sydd o ddeddf sydd etifeddion, gwnaed ffydd yn ddi-fudd a’r addewid yn ddi-rym,
15canys gweithreda’r ddeddf ddigofaint; ond lle nid oes deddf, nid oes trosedd.
16Oherwydd hyn y bu o ffydd, fel y byddai yn ôl gras, er mwyn i’r addewid fod yn sicr i’r holl had, nid i’r rhai sydd o’r ddeddf yn unig, ond hefyd i’r neb sydd o ffydd Abraham — yr hwn yw ein tad ni oll
17(fel yr ysgrifennwyd: Yn dad cenhedloedd lawer y gosodais di
Gen. 17:5.) — gerbron Duw, yr hwn y credodd iddo, y Duw a fywha’r meirw, ac a eilw ar bethau nad ydynt fel pe byddent;18hwn, ar bwys gobaith a gredodd yn erbyn gobaith, fel y delai yn dad cenhedloedd lawer,
Gen. 17:5. yn ôl a ddywedwyd: Felly y bydd dy had diGen. 15:5.;19a heb wanhau yn ei ffydd gwybu farweiddio ei gorff ei hun, gan ei fod ynghylch can mlwydd oed, a marw bru Sara,
20eto yn wyneb addewid Duw ni phetrusodd trwy anghrediniaeth, ond ymgryfhaodd trwy ei ffydd, a rhoddodd ogoniant i Dduw,
21yn llawn sicrwydd ei fod yn abl i gyflawni hefyd yr hyn a addawodd.
22Ac oherwydd hyn fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
23Eithr nid ysgrifennwyd cyfrifwyd iddo,
Gen. 15:6. ac ef yn unig mewn golwg,24ond a ninnau hefyd y rhai y byddir yn cyfrif iddynt, sy’n credu ynddo ef a gododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw,
25yr hwn a draddodwyd oherwydd ein camweddau ni,
Esa. 53:4, 5. ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.