Amos 3 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Clywch y gair hwn a lefarodd Iafe amdanoch, Feibion Israel, am yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft:

2“Chwi yn unig a adnabûm

O holl deuluoedd y ddaear,

Am hynny y gofwyaf chwi

Am eich holl anwireddau.”

3A rodia dau ynghyd

Heb bennu oed?

4A rua llew yn y goedwig

Heb fod ganddo ysglyfaeth?

A lefa llew ifanc o’i loches

Heb ddal dim?

5A syrth aderyn ar y ddaear

Heb fod abwyd iddo?

A gyfyd magl oddiar y llawr

Oni bydd wedi dal?

6Neu a chwythir utgorn mewn dinas

Heb i’r bobl gynhyrfu?

Neu a ddigwydd drwg i ddinas

A Iafe heb ei wneuthur?

7Canys ni wna fy Arglwydd Iafe ddim

Heb ddatguddio’i gyfrinach i’w weision y proffwydi.

8Rhuodd llew, pwy nid ofna?

Llefarodd fy Arglwydd Iafe, pwy ni phroffwyda?

9Hysbyswch ar gestyll yn Asdod,

Ac ar gestyll yng ngwlad yr Aifft,

A dywedwch, “Ymgesglwch ar fynyddoedd Samaria,

A gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn,

A gorthrymderau yn ei chanol;

10Canys ni fedrant wneuthur uniondeb,

A hwythau’n trysori trais a difrod yn eu cestyll.”

Medd Iafe.

11Am hynny fel hyn y dywed fy Arglwydd Iafe,

“Gwrthwynebwr a amgylcha’r wlad,

Ac a ostwng dy nerth oddiwrthyt,

Ac ysbeilir dy gestyll.”

12Fel hyn y dywed Iafe,

“Megis y cipia bugail o safn llew

Ddwy goes neu ddarn o glust,

Felly y cipir Meibion Israel sy’n trigo yn Samaria

Ar gongl glwth, ac ar ddamasg gwely.”

13“Clywch a rhybuddiwch Dŷ Iacob,”

Medd fy Arglwydd Iafe, Duw’r lluoedd,

14“Canys y dydd y gofwyaf Israel am ei droseddau,

Y gofwyaf allorau Bethel,

A thorrir cyrn yr allor,

A syrthiant i’r ddaear;

15A thrawaf yr hendre a’r hafod,

A difëir y tai ifori,

A bydd diwedd ar dai lawer.”

Medd Iafe.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help