1Paul apostol Crist Iesu drwy ewyllys Duw, a’r brawd Timotheus,
2at y saint yng Ngholosae a’r brodyr ffyddlon yng Nghrist; gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad.
3Diolchwn i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, bob amser wrth weddïo drosoch,
4wedi clywed ohonom am eich ffydd chwi yng Nghrist Iesu a’r cariad sydd gennych tuag at yr holl saint
5ar gyfrif y gobaith sydd yng nghadw i chwi yn y nefoedd, yr hwn y clywsoch gynt amdano yng ngair gwirionedd yr efengyl
6sydd wedi dyfod atoch, megis y mae yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth a chynyddu fel y mae ynoch chwithau hefyd, o’r dydd y clywsoch am ras Duw a’i wir adnabod,
7megis y dysgasoch oddi wrth Epaffras ein cyd-was annwyl, sydd yn weinidog ffyddlon i Grist drosoch chwi,
8ac a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd.
9Oherwydd hyn ninnau hefyd, o’r dydd y clywsom, ni pheidiwn â gweddïo drosoch a deisyf eich cyflenwi â gwybodaeth o’i ewyllys ef ym mhob doethineb a dirnadaeth ysbrydol,
10i rodio yn deilwng o’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda a chynyddu mewn gwybodaeth o Dduw,
11wedi eich nerthu ym mhob nerth yn ôl grymuster ei ogoniant ef i bob dyfalbarhau a hirymaros,
12gan ddiolch gyda llawenydd i’r Tad a’ch cymhwysodd i gyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni;
13gwaredodd ni o afael y tywyllwch a’n symud drosodd i deyrnas Mab ei gariad —
14ynddo ef y mae gennym y prynedigaeth, maddeuant pechodau;
15yr hwn yw delw’r Duw anweledig, cyntaf-anedig yr holl greadigaeth,
16canys ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, y pethau gweledig a’r pethau anweledig, pa un bynnag ai gorseddau ai arglwyddiaethau ai llywodraethau ai awdurdodau; pob peth a grewyd trwyddo ef ac erddo ef.
17Ac y mae ef cyn pob peth, ac ynddo ef y cyd-saif pob peth,
18ac ef yw pen y corff, yr eglwys; ef yw’r dechrau, cyntaf-anedig o’r meirwon, fel y byddai ef ei hun yn blaenori ym mhob dim,
19am mai ynddo ef y gwelodd yr holl gyflawnder yn dda breswylio
20a thrwyddo ef lwyr gymodi pob dim ag ef ei hun, wedi gwneuthur heddwch drwy waed ei groes — trwyddo ef — pa un bynnag ai pethau ar y ddaear ai pethau yn y nefoedd.
21A chwithau, a oedd gynt wedi ymddieithrio ac yn elyniaethus eich meddwl mewn gweithredoedd drwg, yn awr a lwyr gymododd ef
22yng nghorff ei gnawd drwy farwolaeth, i’ch cyflwyno yn sanctaidd a di-fefl a diargyhoedd ger ei fron,
23os arhoswch yn y ffydd, wedi eich sylfaenu ac yn ddiysgog a heb fod yn symud oddi wrth obaith yr efengyl a glywsoch, a gyhoeddwyd ymhlith pob creadur dan y nef, ac y’m gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog iddi.
24Yn awr llawenhaf yn fy nioddefiadau drosoch, a chyflanwaf yr hyn sydd yn eisiau o gystuddiau Crist yn fy nghnawd er mwyn ei gorff, yr hwn yw yr eglwys,
25y’m gwnaethpwyd i yn weinidog iddi, yn ôl goruchwyliaeth Duw a roddwyd i mi er eich mwyn i gyflawni gair Duw,
26y dirgelwch a guddiwyd oddi wrth yr oesoedd ac oddi wrth y cenedlaethau — eithr yn awr a amlygwyd i’w saint,
27yr ewyllysiodd Duw wneuthur yn hysbys iddynt pa beth yw cyfoeth gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y cenhedloedd, yr hwn yw Crist ynoch, gobaith y gogoniant.
28Hwn a gyhoeddwn ni, gan rybuddio pob dyn a dysgu pob dyn ym mhob doethineb fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist;
29er mwyn hyn hefyd yr ymboenaf gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef a weithreda ynof mewn nerth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.