Iago 2 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Fy mrodyr, na foed gennych gyda derbyn wyneb eich ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant.

2Canys o daw i’ch cynulliad ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd ŵr tlawd mewn gwisgoedd budron,

3ac edrych ohonoch ar y gŵr â’r dillad gwychion, a dywedyd: “Eistedd di yma yn dda dy le,” ac wrth y tlawd ddywedyd: “Saf dithau yna, neu, eistedd is law fy stôl droed i,”

4oni wnewch ynoch eich hunain ragor rhwng y naill â’r llall, ac oni byddwch farnwyr yn ôl drwg ddadleuon?

5Gwrandewch, fy mrodyr annwyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i’r rhai a’i caro?

6Eithr chwithau, dibrisio’r tlawd a wnaethoch. Onid y cyfoethogion sydd yn gormesu arnoch a’ch llusgo i’r brawdleoedd eu hunain?

7Onid hwy sydd yn cablu’r enw gwiw a alwyd arnoch?

8Yn wir, os cyflawni’r gyfraith frenhinol yr ydych, yn ôl yr ysgrythur: Câr dy gymydog fel ti dy hun

Lef. 19:18., da y gwnewch.

9Eithr os derbyn wyneb yr ydych, pechod a wnewch, ac fe’ch condemnir gan y gyfraith fel troseddwyr.

10Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd, a thramgwyddo mewn un peth, euog fydd o’r cwbl.

11Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, hefyd a ddywedodd, Na ladd

Ecs. 20:13, 14; Deut. 5:17, 18. . Ac oni odinebi, eithr lladd ohonot, ti fyddi droseddwr cyfraith.

12Felly lleferwch, ac felly gweithredwch, megis rhai ar gaffael eu barnu wrth gyfraith rhyddid.

13Canys barn ddidrugaredd fydd i’r sawl na wnaeth drugaredd. Trech trugaredd na barn.

14Pa les, fy mrodyr, ddywedyd o neb fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A ddichon ei ffydd ei achub ef?

15O bydd brawd neu chwaer yn brin o ddillad, a bod eisieu ganddynt ymborth beunyddiol,

16a dywedyd o un ohonoch wrthynt, “Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch ac ymddigonwch,” eithr heb roddi iddynt reidiau’r corff, pa les hynny?

17Felly hefyd, ffydd, oni bo ganddi weithredoedd, marw ydyw ynddi ei hun.

18Eithr dywed rhywun: “Ffydd sydd i ti, a gweithredoedd i minnau.” Dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau, dangosaf iti fy ffydd o’m gweithredoedd.

19Credu yr wyt ti mai un yw Duw? Gwych y gwnei: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu — ac yn arswydo.

20Eithr a fynni wybod, ti ddyn gwagsaw, mai diffrwyth yw ffydd heb weithredoedd?

21Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, wrth offrymu Isaac ei fab ar yr allor?Gen. 22:2, 9.

22Gweli gyd-weithio o ffydd â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd ddarfod perffeithio ei ffydd,

23a chyflawnwyd yr ysgrythur a ddywed: A chredodd Abraham i Dduw, ac fe’i cyfrifwyd iddo’n gyfiawnder,Gen. 15:6. a chyfaill Duw

Esa. 41:8 (Hebr.); 2 Cron. 20:7 (Hebr.). y galwyd ef.

24Gwelwch mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig.

25Ac yn yr un ffunud, Rahab y butain hithau, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, wrth dderbyn ohoni’r cenhadau a thrwy ffordd arall eu gollwng ymaith?

26Canys megis am y corff heb ysbryd, mai marw yw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help