Rhufeiniaid 12 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Gan hynny, frodyr, erfyniaf arnoch trwy dosturiaethau Duw, gyflwyno eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, wrth fodd Duw, eich rhesymol addoliad chwi.

2Ac nac ymagweddwch yn ôl yr oes hon, eithr trawsffurfier chwi trwy adnewyddiad y meddwl, fel y profoch beth yw ewyllys Duw, y peth sy dda a boddhaol a chyflawn.

3Trwy’r gras a roddwyd i mi, dywedaf wrth bob un sydd yn eich plith, na osodo ei fryd ar ddim yn uwch nag y dylai, eithr rhoi ei fryd ar fod yn gymedrol, yn ôl y mesur o ffydd a rannodd Duw i bob un.

4Oblegid megis mewn un corff y mae gennym aelodau lawer, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith,

5felly nyni, sy’n llawer, un corff ydym yng Nghrist, ac aelodau bob un o’n gilydd.

6A chennym ddoniau yn amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, ai proffwydoliaeth, boed yn cyfateb i’n ffydd;

7ai gwasanaeth, ymrown i’r gwasanaeth; ai addysgwr, i addysgu; ai cynghorwr, i gynghori;

8a gyfranno, gwnaed yn unplyg; a lywyddo, yn frwdfrydig; a wnelo drugaredd, yn siriol.

9Boed eich cariad yn ddiragrith. Ffieiddiwch ddrygioni, glynwch wrth ddaioni.

10Mewn brawdgarwch byddwch dyner eich serch tuag at eich gilydd; mewn rhoi parch yn rhagori ar eich gilydd;

11mewn brwdfrydedd yn ddi-ildio; yn ferw eich ysbryd; yn gwasanaethu’r Arglwydd;

12yn llawenhau mewn gobaith; yn ymgynnal dan orthrymder; yn dyfalbarhau mewn gweddi;

13yn cyfrannu tuag at anghenion y saint; yn arfer lletygarwch.

14Bendithiwch y rhai a’ch erlidia, bendithiwch ac na felltithiwch.

15Llawenhewch gyda’r rhai a lawenhâ; wylwch gyda’r rhai a wyla.

16Byddwch yn unfryd â’ch gilydd, heb roi eich bryd ar uchel bethau, ond bod yn gynefin â phethau distadl. Na fyddwch gall yn eich golwg eich hunain.

Esa. 5:21.

17Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau anrhydeddus gerbron pob dyn.

Diar. 3:4.

18Os yn bosibl, o’ch rhan chwi, boed heddwch rhyngoch a phob dyn.

19Nac ymddielwch, anwyliaid; yn hytrach, rhowch gyfle i’w ddigofaint ef, canys ysgrifenedig yw: Myfi piau dialedd, myfi a dalaf yn ôl,

Deut. 32:35. medd yr Arglwydd.

20Eithr os newyna dy elyn portha ef; os sycheda, dioda ef; canys wrth wneuthur hyn ti bentyrri farwor tanllyd ar ei ben.

Diar. 25:21.

21Na’th goncrer di gan y drwg, eithr concra di y drwg trwy’r da.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help