1Y gwan ei ffydd derbyniwch, nid i roi barn ar opiniynau.
2Un, sy ganddo ffydd i fwyta popeth; arall, y gwan, llysiau a fwyty.
3Y neb a fwyty, na ddiystyred y sawl ni fwyty, a’r neb na fwyty, na farned y sawl a fwyty, canys derbyniodd Duw ef.
4Pwy wyt ti i farnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y saif neu y syrth; a pherir iddo sefyll, canys fe all yr Arglwydd beri iddo.
5Barn un ddiwrnod yn uwch na diwrnod, barn arall bob diwrnod yn gyfwerth; boed pob un yn gwbl sicr yn ei feddwl ei hun.
6Y neb a esyd ei fryd ar ddiwrnod, i’r Arglwydd y’i gesyd; a’r neb a fwyty, i’r Arglwydd y bwyty, canys y mae’n diolch i Dduw; a’r neb na fwyty, i’r Arglwydd ni fwyty, ac y mae yntau yn diolch i Dduw.
7Canys nid yw neb ohonom yn byw iddo’i hun, ac nid yw neb yn marw iddo’i hun.
8Canys os byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw.
9Gan hynny, pa un ai byw ai marw, eiddo’r Arglwydd ydym. Canys i hyn y bu Crist farw a dyfod yn fyw, fel y byddai yn Arglwydd y meirw a’r byw.
10Eithr tydi, paham y berni dy frawd? Neu tithau, paham y dirmygi dy frawd? Bydd i bawb ohonom sefyll gerbron brawdle Duw.
11Canys ysgrifennwyd: Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, i mi y plyg pob glin, ac i Dduw y dyry pob tafod fawl.
Esa. 45:23.12Felly, ynteu, dyry pob un ohonom gyfrif amdano’i hun i Dduw.
13Gan hynny, na farnwn ein gilydd mwyach; yn hytrach bernwch fel hyn, na roddoch dramgwydd i frawd, neu rwystr.
14Gwn, ie, sicr ydwyf yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono’i hun; ond i’r neb a dybio bod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan.
15Canys os poenir dy frawd o achos bwyd, nid wyt mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddinistria â’th fwyd hwnnw y bu Crist farw drosto.
16Nac aed yn gabledd gan hynny y peth da sy gennych.
17Canys nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
18Oblegid y neb sy gaethwas yn hyn i Grist sydd wrth fodd Duw a chymeradwy gan ddynion.
19Dilyn felly yr ydym y pethau sydd er heddwch a’r pethau sydd er adeiladaeth ein gilydd.
20Na ddymchwel waith Duw er mwyn bwyd. Glân yw popeth, eithr drwg yw i’r dyn a fwyty er gwaethaf tramgwydd.
21Da yw peidio â bwyta cig neu yfed gwin neu wneuthur dim y tramgwyddo dy frawd wrtho.
22Y ffydd sydd gennyt, bydded gennyt wrthyt dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd y neb nis barno ei hun yn y peth a gymeradwya.
23Ond y neb a betrusa a gondemniwyd, os bwyty, am nas gwna oddi ar ffydd; a phopeth ni wneir oddi ar ffydd, pechod yw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.