1 Pedr 1 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Pedr, apostol Iesu Grist, at ddieithriaid y Gwasgariad ym Mhontus, Galatia, Capadocia, Asia a Bithynia,

2etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad, drwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist. Amlhaer gras a thangnefedd i chwi.

3Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn, yn ôl ei fawr drugaredd, a’n hadgenhedlodd ni i obaith byw drwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,

4i etifeddiaeth anllygredig a dihalogedig ac anniflanedig y sydd ynghadw yn y nefoedd i chwi,

5y rhai yng ngallu Duw a warchedwir drwy ffydd i gadwedigaeth, barod i’w datguddio yn yr amser diwethaf.

6Yn hyn yr ydych yn gorfoleddu, er eich bod yn awr os rhaid yw, wedi eich dwyn i dristwch dros ychydig, oherwydd amrywiol brofedigaethau,

7fel yn y prawf y caffer eich ffydd chwi’n fwy gwerthfawr nag aur sy’n darfod, er ei buro drwy dân, er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn natguddiad Iesu Grist.

8Hwn, er nas gwelsoch yr ydych yn ei garu, a chan gredu ynddo, heb fod yn awr yn ei weled, yr ydych yn gorfoleddu â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus,

9gan dderbyn diwedd y ffydd, sef iachawdwriaeth eneidiau —

10yr iachawdwriaeth yr ymofynnodd ac y dyfal-chwiliodd amdani broffwydi a broffwydodd am y gras a drefnwyd i chwi,

11gan chwilio at bwy neu at ba fath adeg y cyfeiriai Ysbryd Crist a oedd ynddynt, pan oedd ef yn rhagdystiolaethu am ddioddefiadau Crist a’r gogoniannau a’u dilynai;

12i’r rhai y datguddiwyd nad iddynt hwy eu hunain ond i chwi yr oeddynt yn gweinyddu’r pethau hyn sy’n awr wedi eu hysbysu i chwi drwy’r rhai a gyhoeddodd yr Efengyl i chwi drwy’r Ysbryd Glân a ddanfonwyd o’r nef, pethau y mae angylion yn chwenychu syllu arnynt.

13Am hynny, gan wregysu lwynau eich meddwl, byddwch sobr, a gosodwch eich gobaith yn gwbl ar y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist,

14fel plant ufudd-dod, heb gydymffurfio â’ch blysiau yn eich anwybodaeth gynt;

15eithr yn ôl patrwm y sanctaidd a’ch galwodd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymddygiad,

16canys y mae’n ysgrifenedig:

Chwi a fyddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi’n sanctaidd.

17Ac os ar Dad yr ydych yn galw, sy’n barnu’n ddidderbyn wyneb yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich pererindod,

18gan wybod nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad a drosglwyddwyd i chwi oddi wrth eich tadau,

19eithr â gwerthfawr waed un sydd megis oen dianaf a difrychau, sef Crist,

20yr hwn a ragwybuwyd cyn sylfaenu’r byd, ond a amlygwyd yn niwedd yr amseroedd er eich mwyn chwi,

21y sydd trwyddo ef yn ffyddlon i Dduw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw.

22Wedi glanhau eich eneidiau trwy ufudd-dod i’r gwirionedd i frawdgarwch diffuant, cerwch eich gilydd o’r galon yn selog,

23wedi eich hadgenhedlu nid o had llygradwy eithr drwy air anllygradwy Duw sy’n byw ac yn parhau.

24Canys:

Pob cnawd, fel glaswelltyn yw,

A’i holl ogoniant fel blodeuyn glaswelltyn.

Gwywodd y glaswelltyn,

A syrthiodd y blodeuyn.

25 Ond gair yr Arglwydd sy’n parhau dros byth.

A hwn yw’r gair, sef yr Efengyl a gyhoeddwyd i chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help