Mathew RHAGAIR - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)
RHAGAIRYr oedd gennym wrth law y cyfieithiad a wnaethpwyd o’r ddwy bennod ar hugain gyntaf gan Bwyllgor Bangor â Syr John Morris-Jones yn y gadair. Afraid yw dweud y gallwyd yn hawdd dderbyn llawer ohono, a bod i’r hen bwyllgor a’i gadeirydd, felly, ran bwysig yn y cyfieithiad a gyflwynir yn awr. Nid teg, serch hynny, osod dim o’r cyfrifoldeb amdano arnynt hwy, oblegid cymerasom ni ein rhyddid i newid cryn lawer ar eu gwaith.Bellach, wedi cyhoeddi Efengyl Mathew, erys y gwaith o ddileu’r anghydfod na allai lai na chodi, gyda threigl yr amser a dreuliwyd i’w trosi, rhwng y tair Efengyl Gyfolwg yn eu gwisg newydd.Testun Nestle a ddilynwyd wrth gyfieithu. D. Emrys Evans. Ifor Williams.Rhagfyr, 1944.Yn ôl Mathew