2 Thesaloniaid 2 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ac am ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist a’n cynnull ni ger Ei fron Ef, deisyfwn arnoch, frodyr,

2na fyddo’n hawdd eich siglo o ran eich meddwl na’ch cythryblu na chan ysbryd na chan air na chan lythyr megis petai oddi wrthym ni, fod dydd yr Arglwydd wedi dyfod.

3Na thwylled neb chwi mewn unrhyw fodd; oblegid oni ddêl yn gyntaf y gwrthgiliad a datguddio’r Dyn Anwir, mab y golledigaeth,

4a wrthwyneba ac a ymddyrchaif yn erbyn beth bynnag a elwir yn dduw neu a addolir, ac eistedd ei hun yn nheml Dduw a chyhoeddi mai ef sydd Dduw —

5oni chofiwch fy mod yn dywedyd hyn wrthych pan oeddwn eto gyda chwi?

6Ac yn awr gwyddoch beth sydd yn ei atal, fel y datguddier ef yn ei amser priod.

7Canys y mae dirgelwch anwiredd yn gweithio eisoes, eithr yn unig hyd nes y symudir o’r ffordd yr hwn sydd yn ei atal,

8ac yna datguddir y Dyn Anwir a’r Arglwydd Iesu a’i dinistria ef ag anadl Ei enau ac a’i diddyma trwy ymddangos ohono yn Ei ddyfodiad.

9A’i ddyfodiad sydd yn ôl gweithgarwch Satan gyda phob gallu ac arwyddion a rhyfeddodau gau

10ynghyda phob rhyw dwyll anghyfiawnder i’r rhai a gyfrgollir am na dderbyniasant gariad at wirionedd i’w hachub.

11Oherwydd hyn, Duw sy’n anfon atynt allu twyllodrus a bair iddynt gredu’r gau

12fel y barner pawb na chredodd y gwirionedd ond ymhyfrydu mewn anghyfiawnder.

13Ond diolch a ddylem ni yn wastadol i Dduw amdanoch chwi, frodyr annwyl gan yr Arglwydd, oherwydd i Dduw eich dewis chwi o’r dechreuad i iachawdwriaeth trwy sancteiddiad yr Ysbryd a ffydd yn y gwirionedd.

14I hyn y’ch galwodd chwi trwy ein hefengyl ni i gaffael gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.

15Gan hynny, frodyr, sefwch a glynwch wrth y traddodiadau a ddysgasoch gennym ni trwy air neu lythyr.

16A’n Harglwydd Iesu Grist Ei Hun, a Duw ein Tad, yr Hwn a’n carodd ac a roddodd inni ddiddanwch bythol a gobaith da trwy Ei ras,

17a ddiddano eich calonnau a’ch cadarnhau ym mhob gweithred a gair da.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help