1Yn awr, wedi i Ffestus gyrraedd y dalaith, ar ôl tri diwrnod fe aeth i fyny i Gaersalem o Gesarea,
2a rhoes yr Archoffeiriaid a’r gwŷr blaenaf o’r Iddewon hysbysrwydd iddo yn erbyn Paul,
3a deisyfent arno gan ofyn, yn ffafr yn erbyn Paul, am iddo anfon amdano i Gaersalem, a hwythau’n gwneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd.
4Atebodd Ffestus ar hynny fod Paul ynghadw yng Nghesarea, a’i fod ef ei hun yn bwriadu cychwyn ymaith ar fyr.
5“Felly,” meddai, “deued i lawr gyda mi y rhai sydd ag awdurdod yn eich plith, ac od oes dim allan o’i le yn y gŵr, cyhuddent ef.”
6Ac wedi iddo dreulio yn eu plith nid mwy nag wyth neu ddeng niwrnod, fe aeth i lawr i Gesarea, a thrannoeth fe eisteddodd ar y frawdle a gorchymyn dwyn Paul ger bron.
7Ac wedi iddo ddyfod fe safodd yr Iddewon, a ddeuthai i lawr o Gaersalem, o’i amgylch, gan ddwyn yn ei erbyn lawer o achwynion trwm,
8na allent eu profi, a Phaul yn ateb: “Ni throseddais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon nac yn erbyn y Deml nac yn erbyn Cesar.”
9Ond gan y dymunai Ffestus osod yr Iddewon dan rwymau iddo, fe atebodd i Baul a dywedyd: “A fynni di fynd i fyny i Gaersalem, ac yno dy farnu ger fy mron i am y pethau hyn?”
10A dywedodd Paul: “Sefyll yr wyf fi ger bron brawdle Cesar, lle y dylid fy marnu. I’r Iddewon ni wneuthum i ddim drwg, fel y gwyddost ti yn eithaf da.
11Os troseddwr wyf ac os gwneuthum i ddim yn haeddu marwolaeth, nid wyf yn gwrthod marw; eithr onid oes dim yn yr hyn y cyhudda y rhain fi, ni all neb fy rhoddi o ffafr iddynt. At Gesar yr wyf yn apelio.”
12Yna, wedi iddo ymddiddan â’r cyngor, fe atebodd Ffestus: “At Gesar yr apeliaist, ger bron Cesar y cei fynd.”
13Ac wedi i rai dyddiau fyned heibio daeth Agripa, y brenin, a Bernice i lawr i Gesarea, a chyfarch Ffestus.
14A chan eu bod yn treulio dyddiau lawer yno, fe roes Ffestus achos Paul ger bron y brenin, gan ddywedyd, “Y mae yma ryw ŵr a adawyd gan Ffelix yn garcharor, a phan
15ddeuthum i Gaersalem fe roes Archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon hysbysrwydd i mi yn ei gylch, gan ofyn ei gollfarnu.
16Atebais iddynt nad arfer Rhufeinwyr oedd rhoi o ffafr neb rhyw ddyn hyd oni chaffai’r cyhuddedig ei gyhuddwyr o flaen ei wyneb, a chael cyfle i’w amddiffyn ei hun ynghylch yr achwyniad.
17Felly deuthant ynghyd yma, a heb oedi dim eisteddais drannoeth ar y frawdle, a gorchmynnais ddwyn y gŵr ger bron.
18Ond pan safodd ei gyhuddwyr, dim cyhuddiad ni ddygent o’r drygweithredoedd a ddisgwyliwn i;
19ond rhyw ddadleuon oedd rhyngddynt ac ef ynghylch eu crefydd eu hunain ac ynghylch rhyw Iesu sydd wedi marw, ond y dywedai Paul ei fod yn fyw.
20A chan fy mod i ’n anghyfarwydd ag ymofyn am y pethau hyn, gofynnais iddo a fynnai fynd i Gaersalem a’i farnu yno amdanynt.
21Ond gan i Baul apelio am gael ei gadw i’w brofi gan ei Fawrhydi, gorchmynnais ei gadw hyd oni throsglwyddwn ef i Gesar.”
22Ac ebe Agripa wrth Ffestus, “Carwn glywed y dyn fy hunan,” “Yfory,” eb yntau, “ti gei ei glywed.”
23Felly drannoeth, wedi i Agripa a Bernice ddyfod yn fawr eu rhwysg, a myned i mewn i’r llys ynghyd â chapteniaid a gwŷr mawr y ddinas, ar orchymyn Ffestus fe ddygwyd Paul ger bron.
24Ac ebe Ffestus, “Agripa frenin, a chwi wŷr oll sydd yma gyda ni, gwelwch hwnyma; holl liaws yr Iddewon a ddeisyfodd arnaf yn ei gylch yng Nghaersalem ac yma, gan lefain na ddylai gael byw yn hwy.
25Minnau, canfûm na wnaethai ef ddim yn haeddu marwolaeth; ond gan iddo ef ei hun apelio at ei Fawrhydi, penderfynais ei anfon.
26Ond nid oes gennyf ddim sicr i’w sgrifennu amdano at fy Arglwydd; gan hynny, dygais ef ymlaen ger eich bron chwi ac yn enwedig ger dy fron di, frenin Agripa, fel wedi cynnal ymholiad y caffwyf beth i’w sgrifennu.
27Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor, heb arwyddo hefyd yr achwynion sydd yn ei erbyn.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.