1Ac oddiyno cododd, a daw i ororau Iwdea a thu hwnt i’r Iorddonen; a chyd-gyrcha drachefn dyrfaoedd ato, ac, fel yr arferai, drachefn y dysgai hwynt.
2A daeth ato Phariseaid, a gofynnent iddo ai iawn i ŵr ymwrthod â’i wraig; — er ei brofi ef.
3Atebodd yntau, a dywedodd wrthynt, “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?”
4Dywedasant hwythau, “Caniataodd Moses ysgrifennu llythyr ysgar, ac ymwrthod â hi,”Deut. 24:1.
5A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Oherwydd eich calon-galedwch chwi yr ysgrifennodd i chwi’r gorchymyn yna.
6Ond o ddechreuad y greadigaeth yn wryw a benyw y gwnaeth ef hwynt;
Gen. 1:27.7am hyn y gedy dyn ei dad a’i fam,
8a bydd y ddau yn un cnawd;
Gen. 2:24. fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd.9Y peth gan hynny a ieuodd Duw, na wahaned dyn.”
10Ac yn y tŷ drachefn holai’r disgyblion ef ynghylch hyn.
11Ac eb ef wrthynt, “Pwy bynnag a ymwrthodo â’i wraig, a phriodi un arall, y mae’n godinebu yn ei herbyn hi;
12ac os hithau a ymwrthyd â’i gŵr a phriodi arall, y mae hi’n godinebu.”
13A dygent ato blant bach, fel y cyffyrddai â hwynt; ond y disgyblion a’u ceryddodd hwynt.
14Ond pan welodd yr Iesu fe ddigiodd, a dywedodd wrthynt, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf fi; peidiwch a’u rhwystro; canys rhai fel hwy bïau deyrnas Dduw.
15Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid â byth i mewn iddi.”
16Ac fe’u cymerai hwynt yn ei freichiau, ac a’u bendithiai, dan ddodi ei ddwylo arnynt.
17Ac wrth iddo gychwyn i ffwrdd, rhedodd un ato, a phenliniodd iddo, a gofynnai iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”
18A’r Iesu a ddywedodd wrtho, “Paham y gelwi fi’n dda? Nid da neb ond un — Duw.
19Y gorchmynion a wyddost: Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na chamdystiolaetha,
10:19 Ecs. 20:13–16; Deut. 5:17–20. Na cham-atal,10:19 Cymharer Deut. 24:14, 15. Anrhydedda dy dad a’th fam.”Ecs. 20:12; Deut. 5:16.20Ac meddal yntau wrtho, “Athro, y rhai hyn oll a gedwais o’m hieuenctid.”
21A’r Iesu a edrychodd arno ac a’i carodd; a dywedodd wrtho, “Un peth sydd ar ol ynot: dos, gwerth y cwbl sy gennyt, a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyred, dilyn fi.”
22Ond cymylodd ei wedd ef wrth y gair, ac aeth ymaith yn ofidus, canys yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
23Ac edrychodd yr Iesu o amgylch, ac medd ef wrth ei ddisgyblion, “Mor anodd yr â’r rhai ag arian ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!”
24A’r disgyblion a arswydai wrth ei eiriau. Ond yr Iesu drachefn a atebodd ac a ddywed wrthynt, “Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw!
25Haws yw i gamel fynd trwy grau’r nodwydd nag i oludog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
26A dirfawr y synnent, gan ddywedyd wrth ei gilydd, “A phwy all gael ei gadw?”
27Edrychodd yr Iesu arnynt, ac eb ef, “Gyda dynion amhosibl, eithr nid gyda Duw; canys popeth sy bosibl gyda Duw.”
Gen. 18:14; Job 42:2; Sech. 8:6.28Dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, “Dyma ni wedi gadael popeth a’th ddilyn di.”
29Meddai’r Iesu, “Yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a’r a adawodd gartref, neu frodyr, neu chwiorydd, neu fam, neu dad, neu blant, neu diroedd, er fy mwyn i ac er mwyn yr efengyl,
30a’r ni dderbyn gann cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn gartrefi, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, gydag erlidiau, ac yn yr oes a ddaw fywyd tragwyddol.
31Ond llawer a fydd o rai blaenaf yn olaf, a’r olaf yn flaenaf.”
32Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Gaersalem; ac yr oedd yr Iesu’n eu rhagflaenu; ac arswyd oedd arnynt; ac ar y rhai a ddilynai yr oedd ofn. Ac fe gymerth drachefn y deuddeg ato, a dechreuodd fynegi iddynt y pethau oedd ar ddigwydd iddo:
33“Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid ac i’r ysgrifenyddion, a chondemniant ef i farwolaeth, a thraddodant ef i’r cenhedloedd;
34a gwatwarant ef, a phoerant arno, a ffrewyllant ef, a lladdant; ac ymhen tridiau fe atgyfyd.”
35A daw ato Iago ac Ioan meibion Sebedeus, gan ddywedyd wrtho, “Athro, dymunwn iti wneuthur i ni yr hyn a ofynnom.”
36Dywedodd yntau wrthynt, “Beth a ddymunwch imi ei wneuthur i chwi?”
37Dywedasant hwythau wrtho, “Dyro i ni gael eistedd un ar dy ddeheulaw ac un ar dy aswy yn dy ogoniant.”
38Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, “Ni wyddoch beth a ofynnwch. A ellwch yfed y cwpan a yfaf fi? neu eich bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i?”
39Dywedasant hwythau wrtho, “Gallwn.” Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, “Y cwpan a yfaf fi a yfwch, ac â’r bedydd y’m bedyddir i y’ch bedyddir;
40ond eistedd ar fy neheulaw neu ar fy aswy, nid yw eiddof fi ei roi, eithr i’r rhai y darparwyd y mae.”
41A phan glywodd y deg, dechreuasant ddigio ynghylch Iago ac Ioan.
42A galwodd yr Iesu hwynt ato, a dywed wrthynt, “Chwi wyddoch fod y rhai’r ystyrrir eu bod yn llywodraethu ar y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a’u mawrion yn awdurdodi arnynt.
43Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a fynno ddyfod yn fawr yn eich plith chwi, bydded i chwi’n was;
44a phwy bynnag a fynno fod yn flaenaf yn eich plith chwi, bydded i bawb yn gaethwas.
45Canys Mab y dyn yntau ni ddaeth i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”
46A deuant i Iericho. Ac wrth iddo fynd allan o Iericho, ef a’i ddisgyblion a chryn dyrfa, mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, oedd yn eistedd ar fin y ffordd.
47A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dywedyd, “Fab Dafydd, Iesu, tosturia wrthyf.”
48A rhybuddiai llawer ef i dewi. Ond mwy o lawer y gwaeddai yntau, “Fab Dafydd, tosturia wrthyf.”
49A safodd yr Iesu, a dywedodd, “Gelwch arno.” A galwant ar y dall, gan ddywedyd wrtho, “Cymer galon; cyfod; y mae’n galw arnat.”
50A thaflodd yntau ei fantell, a llamodd i fyny, a daeth at yr Iesu.
51Ac atebodd yr Iesu ef, a dywedodd, “Beth a fynni i mi ei wneuthur iti?” A’r dall a ddywedodd wrtho, “Rabbwni, cael fy ngolwg yn ol.”
52A dywedodd yr Iesu wrtho, “Dos, dy ffydd a’th iachaodd.” Ac yn y fan fe gafodd ei olwg, ac fe’i dilynai ef ar y ffordd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.