1Wedi hyn edrychais, ac wele ddrws, wedi ei agor yn y nef, a’r llais cyntaf a glywais fel utgorn yn siarad â mi gan ddywedyd: Dring yma, a dangosaf i ti’r pethau sydd raid iddynt ddigwydd wedi hyn.
2Yn ebrwydd yr oeddwn yn yr ysbryd; ac wele gosodasid gorsedd yn y nef, ac ar yr orsedd un yn eistedd,
3a’r hwn a eisteddai yn gyffelyb yr olwg arno i faen iaspis a sardion, ac enfys o gylch yr orsedd, yn gyffelyb yr olwg arni i smaragdin.
4Ac o gylch yr orsedd bedair gorsedd ar hugain, ac ar y gorseddau bedwar henuriad ar hugain yn eistedd wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion, ac ar eu pennau goronau aur.
5Ac o’r orsedd daw allan fellt a lleisiau a tharanau, a saith fflamdorch dân yn llosgi o flaen yr orsedd, y rhai yw saith ysbryd Duw;
6ac o flaen yr orsedd megis môr gwydr cyffelyb i risial; ac ynghanol yr orsedd ac o gylch yr orsedd bedwar peth byw llawn llygaid flaen ac ôl.
7A’r peth byw cyntaf oedd debyg i lew, a’r ail beth byw yn debyg i lo, a’r trydydd peth byw a chanddo’i wyneb fel wyneb dyn, a’r pedwerydd peth byw yn debyg i eryr ar ei adain.
8A’r pedwar peth byw, pob un ohonynt â chwech adain yr un, llawn llygaid ydynt oddi amgylch ac oddi mewn; ac ni pheidiant na dydd na nos â dywedyd:
Sanct, sanct, sanct, Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn oedd ac y sydd ac a ddaw.
9A phan rydd y pethau byw ogoniant ac anrhydedd a diolch i’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd, yr hwn sydd fyw yn oes oesoedd,
10syrth y pedwar henuriad ar hugain o flaen yr hwn sy’n eistedd ar yr orsedd, ac addolant yr hwn sydd fyw yn oes oesoedd, a bwriant eu coronau gerbron yr orsedd, gan ddywedyd:
11Teilwng wyt, ein Harglwydd a’n Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu, canys ti a greodd bob peth, a thrwy dy ewyllys di yr oeddynt ac y crewyd hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.