Actau'r Apostolion 1 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Yr hanes cyntaf a roddais, Theophilus, am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneuthur a’u dysgu

2hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny wedi iddo roi gorchmynion drwy’r Ysbryd Glân i’r apostolion a etholasai;

3iddynt hwy y dangosodd ei hun hefyd yn fyw wedi ei ddioddefaint drwy brofion lawer, gan fod yn weledig iddynt yn ystod deugain niwrnod a llefaru’r pethau a oedd am deyrnas. Dduw.

4Ac wrth gyd-ymgynnull, gorchmynnodd iddynt nad ymadawent o Gaersalem, ond disgwyl addewid y Tad, “a glywsoch,” eb ef, “gennyf fi;

5canys â dwfr y bedyddiodd Ioan, ond fe’ch bedyddir chwi â’r Ysbryd Glân cyn pen llawer o ddyddiau.”

6Hwythau felly wedi dyfod ynghyd, gofynnent iddo gan ddywedyd, “Arglwydd, ai yn yr amser hwn yr adferi’r deyrnas i Israel?”

7Dywedodd wrthynt, “Nid eiddoch chwi ydyw gwybod amseroedd neu brydiau, y rhai a osododd y Tad o fewn ei awdurdod ei hun,

8eithr chwi gewch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddyfod arnoch, a byddwch imi’n dystion yng Nghaersalem ac yn holl Iwdea a Samaria a hyd eithaf y ddaear.”

9Ac wedi iddo ddywedyd hyn, a hwythau’n edrych, fe’i dygwyd i fyny, a chipiodd cwmwl ef o’u golwg hwynt.

10Ac fel yr oeddynt yn syllu tua’r nef, ac yntau’n myned, dyna ddau ŵr yn sefyll yn eu hymyl mewn gwisgoedd gwynion,

11a dywedodd y rhain, “Wŷr Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? Yr Iesu hwn a gymerwyd i fyny oddiwrthych i’r nef, felly y daw, y modd y gwelsoch ef yn myned i’r nef.”

12Yna dychwelasant i Gaersalem o’r mynydd a elwir Mynydd Olewydd, sydd yn agos i Gaersalem, daith Saboth.

13Ac wedi iddynt ddyfod yno, aethant i fyny i’r llofft lle’r oeddynt yn aros, Pedr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Phylip a Thomas, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus a Simon y Selot ac Iwdas fab Iago.

14Y rhai hyn oll oedd yn dyfal barhau yn unfryd mewn gweddi gyda rhai gwragedd a Mair, mam yr Iesu, a chyda’i frodyr.

15Ac yn y dyddiau hynny cyfododd Pedr ymysg y brodyr a dywedyd (yr oedd torf o bobl, tua chant ac ugain i gyd),

16“Frodyr, rhaid oedd cyflawni’r ysgrythur a ragddywedodd yr Ysbryd Glân drwy enau Dafydd am Iwdas, a fu’n arweinydd i’r rhai a ddaliodd Iesu;

17canys cyfrifid ef yn ein plith ni, a digwyddodd iddo’i gyfran o’r swyddogaeth hon.”

18(Yn awr prynasai hwn gae o’r tâl am ei ddrygwaith, ac wedi ymchwyddo holltodd yn ei ganol, a llifodd ei holl ymysgaroedd allan.

19A daeth yn hysbys i holl drigolion Caersalem, nes galw’r cae hwnnw yn eu hiaith hwy Aceldama, sef Cae’r Gwaed.)

20“Canys ysgrifennwyd yn Llyfr y Salmau

Eled ei dyddyn yn anghyfannedd

ac na bydded a drigo ynddo,

ac Cymered arall ei swydd ef.

21Felly o’r gwŷr a fu’n cydymdaith â ni yr holl amser y bu’r Arglwydd Iesu yn mynd i mewn ac allan yn ein gŵydd,

22gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddiwrthym, rhaid i un ohonynt ddyfod yn dyst o’i atgyfodiad gyda ni.”

23A dodasant ddau, Ioseff a enwid Barsabbas, ac a gyfenwid Iwstus, a Mathias.

24A chan weddïo dywedasant, “Tydi Arglwydd, a ŵyr galonnau pawb, amlyga pwy a ddewisaist, un o’r ddau hyn,

25i gymryd ei le yn y weinidogaeth hon a’r apostolaeth, y gŵyrodd Iwdas oddiwrthi i fyned i’w le ei hun.”

26A bwriasant goelbrennau arnynt, a syrthiodd y coelbren ar Fathias, a chyfrifwyd ef gyda’r un apostol ar ddeg.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help