2 Thesaloniaid 3 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Yn ddiwethaf, gweddïwch, frodyr, drosom ni, ar i air yr Arglwydd fyned rhagddo a chael ei fawrygu, megis gyda chwi,

2ac ar i ninnau gael ein gwaredu rhag dynion gwrthnysig a drwg; canys nid yw’r ffydd gan bawb.

3Ond ffyddlon yw yr Arglwydd: Ef a’ch cadarnha chwi ac a’ch amddiffyn rhag yr Un drwg.

4Y mae gennym hyder ynoch yn yr Arglwydd, eich bod yn gwneuthur a orchmynnwn, ac y gwnewch.

5A chyfeiried yr Arglwydd eich calonnau at gariad Duw ac at amynedd Crist.

6Ond gorchmynnwn i chwi, frodyr, yn enw’r Arglwydd Iesu Grist, ymgadw oddi wrth bob brawd sy’n byw’n segur yn lle dilyn y rheol a dderbyniasoch gennym ni.

7Chwi a wyddoch y dylech ein hefelychu ni: canys ni buom segur yn eich mysg.

8Ni fwytasom fara neb heb ei ennill, eithr gweithio nos a dydd mewn diwydrwydd a lludded, rhag pwyso ar neb ohonoch.

9Nid am nad oes gennym hawl, ond i roddi esiampl i chwi i’n hefelychu.

10Yn wir, pan oeddem gyda chwi rhoesom i chwi y gorchymyn “Y neb na fynno weithio, na fwytaed chwaith.”

11Canys clywn fod rhai yn eich plith yn byw’n segur heb weithio dim, ond busnesa.

12Gorchmynnwn a chymhellwn y cyfryw yn yr Arglwydd Iesu Grist i weithio’n dawel ac ennill eu bywoliaeth.

13Ond chwychwi, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur da.

14Ac os gwrthyd neb ufuddhau i’n geiriau yn y llythyr, nodwch hwnnw; na chymdeitheswch ag ef, fel y cywilyddio.

15Ac eto, nac ystyriwch ef fel gelyn ofid rhybuddiwch ef fel brawd.

16Arglwydd y tangnefedd Ei Hun a roddo i chwi Ei dangnefedd bob amser ym mhob rhyw fodd. Yr Arglwydd a fo gyda chwi oll.

17Y mae’r annerch yn fy llaw fy hun, Pawl. Dyma arwydd ym mhob llythyr; dyma fy ysgrifen:

18Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fo gyda chwi oll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help