1Ac yna’r bore, wedi i’r archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, sef yr holl Sanhedrin, ddarparu cyngor, rhwymasant yr Iesu, a dygasant ef ymaith, a’i draddodi i Bilat.
2A gofynnodd Pilat iddo, “Ai ti yw ‘Brenin yr Iddewon’?” Atebodd yntau a dywed wrtho, “Ti sy’n dywedyd.”
3A chyhuddai’r archoffeiriaid ef o lawer o bethau.
4A Philat drachefn a ofynnai iddo, gan ddywedyd, “Onid atebi ddim? Gwêl o ba faint o bethau y’th gyhuddant.”
5Ond yr Iesu nid atebodd mwyach ddim, nes rhyfeddu o Bilat.
6Ac ar bryd gŵyl fe ryddhâi iddynt un carcharor a ddeisyfent ganddo.
7Ac yr oedd un a elwid Barabbas yn rhwym gyda’r gwrthryfelwyr — rhai a wnaethai lofruddiaeth yn y gwrthryfel.
8A daeth y dorf i fyny, a dechreu gofyn iddo wneuthur fel yr arferai iddynt.
9Ac atebodd Pilat hwynt gan ddywedyd, “A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?”
10Canys fe wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef.
11Ond cynhyrfodd yr archoffeiriaid y dorf, er cael ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt.
12Ond atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf â’r un a elwch yn Frenin yr Iddewon?”
13A thrachefn gwaeddasant hwythau, “Croeshoelia ef.”
14Ond dywedai Pilat wrthynt, “Eithr pa ddrwg a wnaeth ef?” Hwythau mwyfwy y gwaeddasant, “Croeshoelia ef.”
15A Philat yn dymuno rhyngu bodd i’r dyrfa, a ryddhaodd iddynt Farabbas, ac a draddododd yr Iesu, wedi ei ffrewyllu, i’w groeshoelio.
16A dug y milwyr ef ymaith i’r neuadd, sef y Praetoriwm; a galwant ynghyd yr holl fintai.
17A gwisgant ef â phorffor, a dodant am ei ben goron ddrain a blethasent;
18a dechreuasant gyfarch iddo, “Henffych well, Brenin yr Iddewon!”
19A churent ei ben â gwialen, a phoerent arno, a chan blygu eu gliniau ymgryment iddo.
20Ac wedi iddynt ei watwar, diosgasant y porffor oddi amdano, a gwisgasant ef â’i ddillad ei hun; a dygant ef ymaith i’w groeshoelio.
21A gorfodant un yn myned heibio, Simon o Gyrene, ar ei ffordd o’r wlad, tad Alexander a Rwffws, i gymryd ei groes ef.
22A dygant ef i’r lle Golgotha, hynny yw o’i gyfieithu lle Penglog.
23A rhoddent iddo win â myrr ynddo; ond ef nis cymerth.
24A chroeshoeliant ef, a rhannant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt,
wedi ei hysgrifennu —BRENIN YR IDDEWON.
27A chydag ef croeshoeliant ddau leidr, un ar ei ddeheulaw ac un ar ei aswy.
29A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablai ef, gan ysgwyd eu pennau
ac wedi ei roi ar flaen gwialen fe’i diodai, gan ddywedyd, “Gedwch i ni weled a ddaw Elïas i’w dynnu ef i lawr!”37Ond yr Iesu a roes lef uchel, ac a drengodd.
38A llen y deml a rwygwyd yn ddwy oddi fry i lawr.
39A phan welodd y canwriad a safai gyferbyn ag ef mai felly y trengodd, fe ddywedodd, “Yn wir, yr oedd y dyn hwn yn fab i dduw.”
40Yr oedd hefyd wragedd yn edrych o bell, ac yn eu plith Mair o Fagdala, a Mair mam Iago Fychan ac Ioses, a Salome,
41y rhai, pan oedd ef yn Galilea, a’i dilynai ac a weinyddai arno, a llawer o wragedd eraill, a ddeuthai i fyny gydag ef i Gaersalem.
42Ac yn awr wedi iddi hwyrhau, gan ei bod yn ddydd darpar, sef y dydd cyn y Sabath,
43fe ddaeth Ioseph o Arimathea, cynghorwr bonheddig, oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac ymwrolodd ac aeth i mewn at Bilat, a gofyn am gorff yr Iesu.
44A rhyfeddodd Pilat ei farw eisoes; ac wedi galw’r canwriad ato fe ofynnodd iddo a fuasai farw eisoes;
45a phan wybu gan y canwriad fe roddes y gelain i Ioseph.
46A phrynodd yntau lenllïain; ac wedi iddo’i dynnu i lawr fe’i hamdôdd yn y llenllïain, a dododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o’r graig, a threiglodd faen ar ddrws y bedd.
47A Mair o Fagdala a Mair mam Ioses a sylwai pa le y dodwyd ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.