1 Corinthiaid 9 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Onid ydwyf yn rhydd? Onid ydwyf apostol? Oni welais Iesu ein Harglwydd ni? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?

2Os i eraill nid wyf apostol, eto, yn ddiau, i chwi, yr ydwyf. Canys sêl fy apostolaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd.

3Fy nadl i wrth y rhai sy’n fy marnu yw honyma —

4onid oes i ni ryddid i fwyta ac yfed?

5Onid oes i ni ryddid i ddwyn oddiamgylch wraig o chwaer, megis hefyd yr apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Chephas?

6Neu, ai myfi yn unig, a Barnabas, sydd heb ryddid i beidio â dilyn gorchwyl?

7Pwy fyth fydd yn rhyfela ar ei draul ei hun? Pwy fydd yn plannu gwinllan ac ni bydd yn bwyta o’i ffrwyth hi? Neu bwy fydd yn bugeilio praidd ac na bydd yn bwyta o laeth y praidd hwnnw?

8Ai yn ôl dyn y dywedaf y pethau hyn, ynteu? Oni ddywed y ddeddf hefyd felly?

9Canys yn neddf Moesen fe sgrifennwyd: Na safnrwyma ŷch dyrnu.

, fy ymffrost i, ni chaiff neb ei throi’n wegi.

16Canys o phregethaf yr Efengyl, nid ymffrost i mi hynny. Canys anghenraid sy’n gorwedd arnaf; canys gwae fi oni phregethaf yr efengyl.

17Canys os o’m dewis yr wyf yn gwneuthur hyn, tâl sydd i mi, eithr onid o’m dewis, gorchwyliaeth a ymddiriedwyd i mi.

18Pa beth, ynteu, ydyw fy nhâl i? Cael, wrth efengylu, osod yr efengyl yn ddi-gost, fel na cham arferwyf fy hawl yn yr efengyl.

19Canys, a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, i bawb y’m gwneuthum fy hun yn gaeth, fel yr enillwn y rhan fwyaf.

20Felly, deuthum i fod i’r Iddewon megis Iddew, fel yr enillwn Iddewon. I’r rhai sy tan ddeddf megis tan ddeddf, er heb fod fy hun tan ddeddf, fel yr enillwn y rhai sydd tan ddeddf.

21I’r rhai di-ddeddf megis un di-ddeddf, er heb fod yn ddi-ddeddf i Dduw, eithr yn neddf Crist, fel yr enillwn y rhai di-ddeddf.

22Deuthum i fod i’r rhai gweiniaid yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid. I bawb yr euthum yn bopeth, fel ymhob rhyw fodd y gwaredwn rywrai.

23Popeth a wnâi er mwyn yr efengyl, fel y gallwyf fod yn gyfrannog ohoni.

24Oni wyddoch fod y rhai a redo mewn rhedegfa yn rhedeg, yn wir, bawb ohonynt, eithr un sy’n derbyn y wobr? Felly rhedwch fel y caffoch y blaen.

25Y mae pob un sy’n cystadlu yn arfer hunanlywodraeth ymhob dim, hwynt-hwy, yn wir, fel y derbyniont goron lygradwy, eithr nyni, un anllygradwy.

26Myfi, gan hynny, felly y rhedaf, sef fel un sydd sicr o’i nod. Felly y byddaf yn dyrnodio, fel un na churo’r awyr.

27Ond yr wyf yn baeddu fy nghorff fy hun, ac yn ei gaethiwo, rhag, ysgatfydd, wedi i mi gyhoeddi i eraill, fy mod fy hun yn wrthodedig.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help