1Yn ddiwethaf, frodyr, deisyfwn ac ymbiliwn yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym ni y modd y dylech rodio a rhyngu bodd Duw, fel, yn wir, yr ydych yn rhodio, ar i chwi ragori fwyfwy.
2Canys gwyddoch pa gyfarwyddiadau a roesom i chwi trwy yr Arglwydd Iesu;
3oblegid hyn yw ewyllys Duw — eich puredigaeth chwi, ymgadw ohonoch rhag godineb,
4a dysgu bob un ohonoch gymryd cymar4:4 Gr. llestr. Enw ffigurol am wraig. Gwêl Megilla Esther 1:11. iddo ei hun mewn diweirdeb a pharch,
5nid yn nwyd anlladrwydd fel y cenhedloedd nad adwaenant Dduw;
6fel na byddo i neb wneuthur cam â’i frawd, na manteisio arno yn y peth hwn. Canys dialydd yw yr Arglwydd am y pethau hyn oll, megis y dywedasom o’r blaen wrthych a’ch dwys rybuddio.
7Ni alwodd Duw ni i aflendid ond mewn purdeb.
8Gan hynny, y neb a ddiystyra nid dyn a ddiystyra namyn y Duw sydd yn rhoddi i chwi Ei Ysbryd sanctaidd.
9Ond am gariad brawdol nid oes eisiau ysgrifennu atoch, oblegid dysgir chwi eich hunain gan Dduw i garu eich gilydd.
10Ac, yn wir, hyn a wnewch tuag at bawb o’r brodyr trwy holl Facedonia. Ond deisyfwn arnoch, frodyr, ragori fwyfwy
11a bod yn eiddgar i fyw’n dawel, a dilyn bob un ei orchwyl ei hun, a gweithio â’ch dwylo, megis y’ch cyfarwyddasom,
12fel y rhodioch yn weddaidd yng ngolwg y byd, ac na ddeloch ar ofyn neb.
13Ni ddymunwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sydd yn huno fel na byddo i chwi ofidio fel y rhelyw nad oes iddynt obaith.
14Canys os credwn i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd trwy Iesu fe ddwg Duw, gydag Ef, y sawl a hunodd.
15A dywedwn hyn wrthych, yn ôl gair yr Arglwydd, na fydd i ni, y rhai byw a erys hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu y sawl a hunodd.
16Canys yr Arglwydd Ei Hun a ddisgyn o’r nef â gwysfloedd, â llef archangel, ac ag utgorn Duw, a’r meirw yng Nghrist a gyfyd gyntaf,
17yna ninnau, y rhai byw, y rhai sy’n aros, a gipir gyda hwynt mewn cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr, ac felly byddwn gyda’r Arglwydd yn dragywydd.
18Gan hynny, diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.