Galatiaid 5 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1I ryddid y rhyddhaodd Crist nyni. Sefwch gan hynny, ac na’ch dalier drachefn tan iau caethiwed.

2Wele, dywedyd yr wyf fi, Paul, wrthych, od enwaedir arnoch, ni bydd Crist o ddim budd i chwi.

3A thystio’r wyf eto, wrth bob dyn yr enwaeder arno, mai ei ddyled yw cadw’r ddeddf i gyd.

4Gwahan-ddiddymwyd chwi oddiwrth Grist, chwi, sy’n ceisio’ch cyfiawnhau trwy ddeddf, cwympasoch oddiwrth ras.

5Canys nyni, trwy’r Ysbryd, ar sail ffydd, disgwl yr ydym am obaith cyfiawnder.

6Canys yng Nghrist Iesu, ni ddichon nac enwaediad ddim, na dienwaediad, namyn ffydd a ddoder ar waith trwy gariad.

7Rhedech yn wych; pwy a’ch rhwystrodd chwi rhag ufuddhau i’r gwirionedd?

8Y cymell hwn, nid oddiwrth y neb sydd yn eich galw y mae.

9Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r toes i gyd.

10Y mae gennyf hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim amgen; ond y neb sy’n aflonyddu arnoch, fe ddwg hwnnw ei farnedigaeth, pwy bynnag a fo.

11A minnau, frodyr, os enwaediad yr wyf eto’n ei bregethu, paham y’m herlidir eto? — wele dramgwydd y Groes wedi ei ddidymu!

12O, na bai eich aflonyddwyr yn eu disbaddu eu hunain!

13Canys chwi, i ryddid y’ch galwyd frodyr; yn unig, na bydded eich rhyddid yn achlysur gennych i’r cnawd, ond trwy gariad, gwasanaethu’ch gilydd.

14Canys y ddeddf i gyd, mewn un gair y cyflawnir hi, sef yw, hwn: Câr dy gymydog fel ti dy hun. Lef. 19:18.

15Ond os cnoi ac ysu’ch gilydd a wnewch, gwyliwch na’ch difether y naill gan y llall.

16Dyma fy meddwl — rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni chyflawnwch mo chwant y cnawd.

17Canys chwennych y mae’r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd, canys gwrthwyneb i’w gilydd yw’r rhai hyn, fel na alloch wneuthur pa bethau bynnag a ewyllysioch.

18Ond os gan yr ysbryd y’ch arweinir, nid ydych tan ddeddf.

19Ac amlwg yw gweithredoedd y cnawd: y cyfryw ydyw godineb, aflendid, anlladrwydd,

20eilunaddoli, swyngyfaredd, gelyniaethau, cynnen, eiddigedd, llidiau, ymrysonau, ymraniadau, ymrwygiadau,

21cenfigennau, meddwdod, cyfeddach, a phethau cyffelyb i’r rhai hyn, pethau yr wyf yn dywedyd wrthych ymlaen llaw amdanynt, megis y dywedais eisoes, na chaiff y neb a wnel y cyfryw etifeddu teyrnas Dduw.

22Ond ffrwyth yr ysbryd ydyw cariad, llawenydd, tangnefedd, hir-ymaros, tiriondeb, daioni, ffydd, addfwynder, hunan-feistrolaeth;

23yn erbyn y cyfryw, deddf nid oes.

24Ond y rhai sydd eiddo Crist Iesu croeshoeliasant y cnawd ynghyd â’i anwydau a’i chwantau.

25Os byw yn yr ysbryd yr ydym rhodiwn hefyd yn yr ysbryd.

26Na fyddwn wag-ogoneddgar, gan ddal herr ar ein gilydd, gan genfigennu y naill wrth y llall.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help