1Am hynny, a nyni wedi ein cyfiawnhau o ffydd, bydded gennym heddwch tuag at Dduw trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
2yr hwn y cawsom drwyddo ein mynediad hefyd mewn ffydd i’r gras hwn y safwn ynddo, ac ymffrostiwn mewn gobaith am ogoniant Duw.
3Ac nid hynny’n unig, eithr ymffrostiwn hefyd yn ein gorthrymderau, gan wybod bod gorthrymder yn cynhyrchu amynedd,
4ac amynedd brofiad, a phrofiad obaith;
5a’r gobaith hwn ni sioma,
i bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un weithred gyfiawn y daeth y dawn i bob dyn i gyfiawnhad bywyd.19Canys, megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaed y lliaws yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd-dod un y gwneir y lliaws yn gyfiawn.
20Ond daeth deddf i mewn fel y cynyddai y camwedd, eithr lle cynyddodd pechod, tra-ymhelaethodd gras,
21fel, megis y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.