1Ac ebe Agripa wrth Baul, “Caniateir i ti siarad drosot dy hun.” Yna fe estynnodd Paul ei law, a dechrau ei amddiffyn ei hun.
2“Am yr holl bethau yr achwynir yn fy erbyn gan Iddewon, frenin Agripa, fe’m hystyriaf fy hun yn ddedwydd o gael fy amddiffyn fy hun heddiw ger dy fron di,
3yn enwedig am dy fod yn gyfarwydd yn yr holl ddefodau a chwestiynau Iddewig; gan hynny, crefaf arnat fy ngwrando yn amyneddgar.
4Fy muchedd, ynteu, o febyd, fy mywyd o’r dechrau, ymhlith fy nghenedl y bu ac yng Nghaersalem, fel y gŵyr pob Iddew;
5adwaenant fi erioed; gwyddant, o mynnant dystiolaethu, mai yn ôl y sect fanylaf o’n crefydd y bûm i fyw yn Pharisead.
6(Hyd yn oed yn awr, oblegid gobaith yn yr addewid i’n tadau ni, a wnaed gan Dduw, yr wyf yn sefyll i’m barnu —
7addewid y mae ein deuddeg llwyth ni trwy wasnaethu yn ymroddgar nos a dydd yn gobeithio ei chyrraedd. Ac am y gobaith hwn yr achwynir arnaf, O frenin, gan Iddewon!
8Paham y bernir yn anghredadwy gennych chwi fod Duw yn cyfodi’r meirw?)
9Beth bynnag, tybiais i ynof fy hun y dylwn weithio llawer yn erbyn enw Iesu, y Nasaread;
10a hyn a wneuthum yng Nghaersalem, a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi cael yr awdurdod oddiwrth yr Archoffeiriaid, a phan oeddid am eu difetha rhoddais fy mhleidlais yn eu herbyn;
11ac yn yr holl synagogau lawer gwaith y cosbais hwynt a cheisio eu gorfodi i gablu, ac a mi’n ynfyd wrthynt dros fesur erlidiwn hwynt hyd yn oed i’r dinasoedd tu allan.
12Pan oeddwn yn teithio ynglŷn â hyn i Ddamascus gydag awdurdod a chennad yr Archoffeiriaid,
13ganol dydd ar y ffordd mi welais, O frenin, oleuni o’r nef yn disgleirio o’m hamgylch i a’r rhai oedd yn teithio gyda mi, goruwch disgleirdeb yr haul.
14Syrthiasom oll i’r llawr, a chlywais lais yn dywedyd wrthyf yn yr iaith Hebraeg, ‘Saul, Saul, paham y’m herlidi? Garw i ti yw gwingo yn erbyn symbylau.’
15Dywedais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd, ‘Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid;
16eithr cyfod a saf ar dy draed; canys i hyn yr ymddangosais i ti — i’th ragordeinio di yn was, ac yn dyst o’r hyn a welaist ohonof ac o’r hyn a welir ohonof gennyt,
17gan dy ddethol di allan o’r Bobl ac o’r Cenhedloedd,
18y rhai yr wyf yn dy anfon atynt i agoryd eu llygaid,
1 Cron. 16:35. i droi ohonynt o dywyllwch i oleuniEsa. 42:7, 16. ac oddiwrth awdurdod Satan at Dduw, fel y caffont faddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a santeiddiwyd trwy ffydd — eu ffydd ynof fi.’19O achos hyn, frenin Agripa, ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol,
20eithr i’r rhai yn Namascus yn gyntaf ac yng Nghaersalem, a thrwy holl wlad Iwdea, a hefyd i’r Cenhedloedd y cyhoeddwn edifarhau a throi at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd teilwng o’u hedifeirwch.
21Oherwydd hyn y daliodd yr Iddewon fi yn y Deml, a cheisio fy llofruddio.
22Swcwr a gefais oddiwrth Dduw hyd y dydd heddiw, ac yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fawr a mân, heb ddywedyd dim yn wahanol i’r pethau y dywedodd y proffwydi eu bod i ddigwydd, a Moesen hefyd,
23os i ddioddef y mae’r Crist, os ef yn gyntaf o atgyfodiad y meirw sydd i fynegi goleuni i’r Bobl ac i’r Cenhedloedd.”
24Ac fel yr oedd ef yn ei amddiffyn ei hun felly, ebe Ffestus â llef uchel, “Yr wyt yn ynfyd, Paul; dy fawr ddysg sy’n dy yrru yn ynfyd.”
25Ebe Paul, “Nid wyf yn ynfyd, ardderchocaf Ffestus, eithr geiriau gwirionedd a phwyll yr wyf yn eu traethu.
26Yn wir, gŵyr y brenin am y pethau hyn, ac wrtho ef y llefaraf yn hy; canys ni chredaf fod dim un o’r pethau hyn yn ddieithr iddo, canys nid mewn congl y gwnaed hyn.
27Yr wyt yn credu’r proffwydi, frenin Agripa? Gwn dy fod yn credu.”
28Ebe Agripa wrth Baul, “Drwy ychydig y ceisi fy mherswadio i i’m gwneuthur yn Gristion!”
29Ebe Paul, “Mi ddymunwn gan Dduw, pa un ai drwy ychydig ai drwy lawer, nid am danat ti yn unig ond am bawb sy’n fy ngwrando heddiw, am iddynt ddyfod yn gyfryw ag yr wyf finnau — oddieithr y rhwymau hyn.”
30Yna cododd y brenin a’r rhaglaw, Bernice hefyd a’r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt,
31ac wedi iddynt ymneilltuo, ymddiddan â’i gilydd a dywedyd: “Nid yw’r dyn yma yn gwneuthur dim yn haeddu marwolaeth neu rwymau.”
32Ac ebr Agripa wrth Ffestus, “Gallasai’r dyn yma fod wedi ei ollwng yn rhydd, pe nad apeliasai at Gesar.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.