1A ni, gan hynny, yn methu ag ymatal yn hwy, penderfynasom aros ar ôl yn Athen wrthym ein hunain,
2ac anfonasom Dimotheus ein brawd, gweinidog Duw yn efengyl Crist, i’ch cadarnhau a’ch calonogi yn eich ffydd,
3fel na lithier neb ohonoch yn y blinderau hyn. Gwyddoch chwi eich hunain mai hynny yw ein rhan;
4canys rhagfynegem i chwi pan oeddem gyda chwi y byddai i ni ddioddef blinder, ac felly y bu, fel y gwyddoch.
5A minnau, oblegid hyn, heb fedru ymatal yn hwy, a anfonais i wybod am eich ffydd, rhag darfod i’r Temtiwr eich temtio ac i’n llafur fynd yn ofer.
6Ond a Thimotheus newydd ddyfod atom oddi wrthych chwi, yn dwyn newyddion da am eich ffydd a’ch cariad, a’ch bod yn coffau yn garedig amdanom yn wastadol, ac yn hiraethu am ein gweled, fel yr hiraethwn ninnau am eich gweled chwi,
7yna y’n cysurwyd, frodyr, o’ch plegid, yng nghanol ein holl gyni a’n blinder, trwy eich ffydd chwi.
8Canys byw yr ydym yn awr os ych chwi’n sefyll yn yr Arglwydd.
9A pha fodd y medrwn ddiolch i Dduw amdanoch, am yr holl lawenydd a gawn o’ch plegid gerbron ein Duw,
10canys yn angerddol yr erfyniwn nos a dydd am weled eich wyneb, a chwblhau yr hyn sydd yn ôl yn eich ffydd.
11Ein Duw a’n Tad Ei Hun a’n Harglwydd Iesu a gyfeirio ein ffordd atoch;
12a’r Arglwydd a baro i chwi gynyddu a rhagori mewn cariad tuag at eich gilydd a thuag at bawb fel y gwnawn ninnau tuag atoch chwi,
13fel y cadarnhaer eich calonnau i’w gwneuthur yn ddifeius mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a’n Tad yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda’i saint oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.