1Yn y dyddiau hynny dyma Ioan Fedyddiwr yn dyfod a phregethu yn niffeithwch Iwdea,
2gan ddywedyd, “Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.”
3Canys hwn yw’r un y llefarwyd amdano trwy Eseia’r proffwyd:
Llef un yn bloeddio yn y diffeithwch,
Paratowch ffordd yr Arglwydd,
unionwch ei lwybrau ef.
4A’r Ioan hwnnw oedd â’i wisg o flew camel, a gwregys croen am ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
5Yna’r âi allan ato Gaersalem a holl Iwdea a holl gymdogaeth yr Iorddonen;
6a bedyddid hwynt ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
7Ac wrth weled llawer o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dyfod i’r bedydd fe ddywedodd wrthynt, “Epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
8Dygwch, ynteu, ffrwyth teilwng o’ch edifeirwch;
9ac na feddyliwch am ddywedyd ynoch eich hunain, ‘Mae gennym ni Abraham yn dad,’ canys meddaf i chwi, fe ddichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.
10Eisoes y mae’r fwyall wedi ei gosod wrth wraidd y prennau; pob pren, ynteu, heb ddwyn ffrwyth da, yr ydys yn ei dorri i lawr, a’i daflu yn tân.
11Myfi yn wir sydd yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch; ond yr hwn sy’n dyfod ar fy ôl, cryfach yw na mi, ac nid wyf deilwng i dynnu ei esgidiau; ef a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân ac â thân;
12â’i wyntyll sydd yn ei law, ac fe lwyr-lanha ei lawr dyrnu, a chasgl ei ŷd i’r ysgubor, ond yr us a lysg â thân anniffoddadwy.”
13Yna dyma’r Iesu yn dyfod o Galilea hyd at yr Iorddonen at Ioan i’w fedyddio ganddo.
14Gwrthodai yntau, gan ddywedyd, “Arnaf i y mae eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti’n dyfod ataf i?”
15Ac atebodd yr Iesu iddo, “Caniatâ yn awr; canys felly y mae’n weddus inni gyflawni pob peth iawn.” Yna fe ad iddo.
16A bedyddiwyd yr Iesu, ac yn ebrwydd esgynnodd o’r dwfr; a dyna’r nefoedd yn ymagor, a gwelodd Ysbryd Duw’n disgyn megis colomen ac yn dyfod arno;
17a dyma lef o’r nefoedd yn dywedyd, “Hwn yw fy mab annwyl a ryngodd fy modd.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.