1Ystyria hyn, fod yn y dyddiau diwethaf amseroedd caled i ddyfod;
2canys bydd dynion yn hunangar, ariangar, ymffrostgar, ffroenuchel, tafotrwg, anufudd i rieni, anniolchgar, annuwiol,
3dideimlad, anghymodol, enllibus, dilywodraeth, annhirion, digariad at ddaioni,
4bradwrus, byrbwyll, chwyddedig, yn caru pleser yn fwy na charu Duw;
5a chanddynt ffurf duwioldeb eithr wedi gwadu ei grym hi.
6Oddi wrth y rhain hefyd tro ymaith; o’u plith y mae’r sawl a ymlwybra i dai, a chael i’w gafael wrageddos dan faich o bechodau, a yrrir gan amryfal nwydau,
7y sydd bob amser yn dysgu, heb fyth allu dyfod i ganfod y gwirionedd.
8Megis y gwrthsafodd Jannes a Jambres Foesen, felly y gwrthsaif y rhain hefyd y gwirionedd, dynion cwbl ddirywiedig eu meddwl, ffuantus eu ffydd.
9Ond nid ânt rhagddynt ymhellach, canys daw eu ffolineb yn amlwg i bawb fel y daeth ffolineb y rheini.
10Eithr tydi, deliaist ar fy nysgeidiaeth, fy ymarweddiad, fy niben, fy ffydd, fy hiroddef, fy nghariad, fy ymgynnal,
11fy erlidiau a’m dioddefiadau, y cwbl a ddigwyddodd i mi yn Antiochia, Iconion, a Lystra, yr holl erlidiau a ddioddefais, ac ohonynt oll fe’m gwaredodd yr Arglwydd.
12A phawb a fynno fyw yn dduwiol yng Nghrist Iesu a erlidir.
13Ond dynion maleisus a ffugwyr a â rhagddynt o ddrwg i waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.
14Eithr tydi, aros yn y pethau a ddysgaist ac y cefaist sicrwydd ohonynt; a chofia gan bwy y dysgaist,
15ac iti o’th febyd wybod yr Ysgrythur Lân a fedr dy wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu.
16Y mae’r holl Ysgrythur yn ysbrydoledig ac yn fuddiol i addysgu, i argyhoeddi, i edfryd, i feithrin mewn cyfiawnder,
17fel y byddo dyn Duw yn gymwys, wedi ei lwyr gymhwyso i bob gwaith da.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.