1Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd, canys iawn yw hynny.
2Anrhydedda dy dad a’th fam, — hwn yw’r gorchymyn cyntaf ag iddo addewid, —
3fel y byddych dda arnat ac y byddych hirhoedlog ar y ddaear.
4Chwithau, dadau, na chythruddwch eich plant, ond maethwch hwy yn nisgyblaeth a chyngor yr Arglwydd.
5Y gweision, ufuddhewch i’ch meistriaid yn ôl y cnawd gydag ofn ac arswyd, yn unplygrwydd eich calon,
6megis i’r Crist, nid â gwasanaeth llygad fel rhai’n boddio dynion, ond fel gweision Crist yn gwneuthur ewyllys Duw o galon,
7gan wasanaethu gydag ewyllys da fel i’r Arglwydd ac nid i ddynion,
8a chwi’n gwybod pa ddaioni bynnag a wnêl unrhyw un, y derbyn hwnnw’n ôl ar law’r Arglwydd, boed ef gaeth neu rydd.
9Chwithau, feistriaid, gwnewch yr un modd tuag atynt hwythau, gan adael bygwth heibio, a chwi’n gwybod bod eu Harglwydd hwy a’ch Arglwydd chwithau yn y nefoedd, ac nad oes derbyn wyneb gydag ef.
10Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yng ngrym ei nerth ef.
11Gwisgwch amdanoch gyflawn arfogaeth Duw er mwyn i chwi allu sefyll yn erbyn cynllwynion y diafol.
12Canys nid yn yr afael â gwaed a chnawd yr ydym ni ond â llywodraethau, ag awdurdodau, â byd-arglwyddi’r tywyllwch hwn, â chethern yr anwiredd yn y nefolion leoedd.
13Gan hynny, cymerwch gyflawn arfogaeth Duw fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi llawn orffen popeth, sefyll.
14Sefwch, felly, wedi gwregysu eich lwynau â gwirionedd, ac wedi gwisgo amdanoch lurig cyfiawnder,
15ac wedi rhoddi am eich traed barodrwydd efengyl heddwch,
16a chymryd heblaw’r cwbl darian y ffydd, yr hon y gellwch ddiffodd â hi holl bicellau tanllyd y fall.
17Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw,
18gyda phob gweddi ac erfyniad, gan weddïo ar bob adeg yn yr Ysbryd, a gwylio ar hyn gyda phob taerineb ac erfyniad dros yr holl saint
19a throsof innau, — fel y rhodder i mi ymadrodd yn agoriad fy ngenau, i hysbysu’n eofn gyfrinach yr
20efengyl yr wyf yn gennad drosti mewn cadwyn, fel y bwyf eofn ynddi i lefaru fel y dylwn.
21Er mwyn i chwithau, hefyd, wybod fy helynt sut y mae arnaf, cewch glywed popeth gan Tychicus, y brawd annwyl a’r gwas ffyddlon yn yr Arglwydd,
22a anfonais atoch yn unswydd er mwyn i chwi wybod ein helynt ac iddo gysuro eich calonnau chwi.
23Heddwch i’r brodyr a chariad ynghyd â ffydd oddi wrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist.
24Gras gyda phawb sy’n caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn anfarwoldeb.
WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR) CYF., CAERDYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.