Dadguddiad 22 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-5Ac efe á ddangosodd i mi afon o ddwfr y bywyd, loew fel crisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw, a’r Oen. Yn nghanol yr heol lydan, ac o ddau tu yr afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deg a dau fath o ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren sydd i iachâu y cenedloedd. A phob melldith á dderfydd. A gorseddfainc Duw a’r Oen á fydd ynddi hi; a’i weision á’i gwasanaethant ef. A hwy á gânt weled ei wyneb ef; a’i enw ef á fydd yn eu talcenau hwynt. Ac ni bydd nos mwyach; ac nid rhaid iddynt wrth ganwyll, na goleuni haul; oblegid yr Arglwydd Dduw á oleua iddynt; a hwy á deyrnasant am oes oesoedd.

6-9Ac efe á ddywedodd wrthyf, Y geiriau hyn ydynt ffyddlawn a chywir. Ac Arglwydd Dduw ysbrydoedd y prophwydi á ddanfonodd ei angel, i ddangos iddei weision y pethau sy raid iddynt fod àr frys. Wele, yr wyf yn dyfod àr frys: gwỳn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geriau prophwydoliaeth y llyfr hwn. A myfi, Ioan, á glywais y pethau hyn, ac á’u gwelais; a phan glywais ac y gwelais hwynt, mi á syrthiais i lawr i addoli gèr bron traed yr angel, oedd yn dangos i mi y pethau hyn. Ac efe á ddywedodd wrthyf, Gwel na wnelych: cydwas ydwyf â thi, ac â’th frodyr, y prophwydi, ac â’r sawl sydd yn cadw geiriau y llyfr hwn: addola Dduw.

10-13Ac efe á ddywedodd wrthyf, Na selia eiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn; oblegid y mae yr amser yn agos. Yr hwn sydd annghyfiawn, bydded annghyfiawn eto; a’r hwn sy frwnt, bydded frwnt eto; a’r hwn sy gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a’r hwn sy santaidd, bydded santaidd eto. Wele, yr wyf yn dyfod àr frys; a’m gobr y sy gyda mi: myfi á dalaf i bob un yn ol fel y byddo ei waith ef. Myfi yw yr Alpha a’r Omega – y Dechreu a’r Diwedd; y Cyntaf a’r Diweddaf.

14-15(Dedwydd yw y rhai sydd yn gwneuthur ei orchymynion ef, fel y byddo iddynt y fraint o fwyta o bren y bywyd; ac y gallont fyned i fewn drwy y pyrth i’r ddinas. Oddiallan y mae y cŵn, a’r swyngyfareddwyr, a’r puteinwyr, a’r llofruddion, a’r eilunaddolwyr, a phob un sydd yn caru ac yn dyfeisio celwydd.)

16-17Myfi, Iesu, á ddanfonais fy angel, i dystiolaethu i chwi y pethau hyn, yn y cynnulleidfäoedd. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd; y Seren fore ddysglaer. Ac y mae yr Ysbryd a’r Briodferch yn dywedyd, Dyred: a’r hwn sydd yn clywed, dyweded, Dyred; a’r hwn sydd â syched arno, deued; pwybynag á ewyllysio, cymered o ddwfr y bywyd yn rhad.

18-20Ac yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw á rydd ato ef y pläau sy gwedi eu hysgrifenu yn y llyfr hwn; ac o thỳn neb ymaith ddim oddwrth eiriau llyfr y brophwydoliaeth hon, Duw á dỳn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o’r ddinas santaidd – y pethau sy gwedi eu hysgrifenu yn y llyfr hwn. Yr hwn sydd yn tystiolaethu y pethau hyn, sydd yn dywedyd, Yn wir, yr wyf yn dyfod àr frys. Amen. Yn wir, dyred, Arglwydd Iesu.

21Boed rhad yr Arglwydd Iesu Grist gyda’r holl Saint!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help