Gweithredoedd 17 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-15A gwedi cymeryd eu taith drwy Amphipolis ac Apòlonia, hwy á ddaethant i Thessalonica; lle yr oedd cynnullfa i’r Iuddewon. Ac yn ol arfer Paul, efe á aeth i fewn yn eu plith, a thros dri Seibiaeth á ymadroddodd wrthynt allan o’r ysgrythyrau; gàn eu hegluro, a dangos yn amlwg, mai rhaid oedd i’r Messia ddyoddef, a chyfodi oddwrth y meirw; a mai hwn yw y Messia, sef Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei gyhoeddi i chwi. A rhai o honynt á gredasant, ac á lynasant wrth Baul a Silas; heblaw nifer mawr o’r Groegwyr crefyddol, ac o’r gwragedd pènaf nid ychydig. Eithr yr Iuddewon annghrediniol, wedi eu llenwi o eiddigedd, á gasglasant yn nghyd ryw ddynion drwg o grwydriaid, a gwedi gwneuthur gwerindorf, á godasant derfysg yn y ddinas; a gwedi ymosod àr dŷ Iason, hwy á geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl. Ond pan na chawsant hwynt, hwy á lusgasant Iason, a rhai o’r brodyr, at ynadon y ddinas, gàn lefain, Y rhai hyn, à sy gwedi troi y byd a’i wyneb yn isaf, á ddaethant yma hefyd: ac Iason á’u derbyniodd hwynt yn ddirgel. Ac y mae y rhai hyn oll yn gweithredu yn erbyn deddfedigaethau Caisar, gàn ddywedyd bod brenin arall, sef Iesu. A hwy á gyffroisant y dyrfa, ac ynadon y ddinas hefyd, pan glywsant y pethau hyn. A gwedi iddynt gael sicrwydd gàn Iason, a’r lleill, hwy á’u gollyngasant hwynt ymaith. Ond y brodyr yn ebrwydd o hyd nos á ddanfonasant Baul a Silas i Ferea: a phan ddaethant yno, hwy á aethant i gynnullfa yr Iuddewon. Y rhai hyn oeddynt fwy boneddigfryd na’r rhai yn Thessalonica: canys hwy á dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gàn chwilio beunydd yr ysgrythyrau, á oedd y pethau hyn felly. Llawer o honynt, gàn hyny, á gredasant; o’r Groegesau urddasolradd, ac o’r gwŷr nid ychydig. Ond cygynted ag y gwybu rhai o Iuddewon Thessalonica bod gair Duw yn cael ei gyhoeddi gàn Baul yn Merea, hwy á ddaethant yno hefyd, gàn gynhyrfu y werin. Ac yna, yn ebrwydd, y brodyr á ddanfonasant Baul ymaith, megys pe buasai i fyned àr hyd y môr. Ond Silas a Thimothëus, á arosasant yno. A chyfarwyddwyr Paul á’i dygasant ef hyd Athen; a gwedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimothëus, àr iddynt ddyfod ato cygynted ag y byddai alledig, hwy á gychwynasant.

DOSBARTH XIII.Dygiad yr Efengyl i Athen, Corinth, ac Ephesus.

16-21A thra yr ydoedd Paul yn aros am danynt yn Athen, ei ysbryd o’i fewn á ddirgynhyrfwyd, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunaddoliaeth. Am hyny efe á ymresymai â’r Iuddewon a’r tröedigion, yn y gynnullfa; ac yn y ddadleufa, beunydd, â’r rhai à gyfarfyddent ag ef. Yna rhai o’r athronyddion Epicuwrëaidd a Stoicaidd, á ymddadleuasant ag ef. Ereill á ddywedasant, Beth á fỳnai y baldorddwr hwn ei ddywedyd? Ac ereill, Tebyg yw ei fod ef yn gyhoeddwr duwiau dyeithr: am ei fod yn mynegi iddynt y Newydd da, am Iesu a’r adgyfodiad. A hwy á’i daliasant ef, ac á’i dygasant i’r Areopagus, gàn ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysg newydd hon, á draethir genyt? Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dyeithr i’n clustiau ni: am hyny ni á fỳnem wybod beth á allai y pethau hyn fod? Canys yr holl Atheniaid, a’r dyeithriaid à ymdeithient yn eu plith, nid oeddynt yn cymeryd eu hamdden i ddim arall ond i ddywedyd neu glywed rhyw newydd.

22-34Paul, gàn hyny, á safodd yn nghanol yr Areopagus, ac á ddywedodd, Atheniaid, mi á welaf eich bod chwi yn mhob modd yn dra chrefyddgar. Canys wrth ddyfod heibio a gweled gwrthrychau eich addoliad, mi á gefais allor a’r graifft hon arni, I’r Duw Anadwaenedig: yr Hwn, gàn hyny, yr ydych chwi, heb ei adnabod, yn ei addoli, hwnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. Y Duw à wnaeth y byd, a phob peth à sydd ynddo, gán ei fod yn Arglwydd nef a daiar, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylaw: a nid â dwylaw dynol y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisieu dim; gàn mai efe ei hun sydd yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. Ac efe á wnaeth o un gwaed yr holl hiliogaeth o ddynion, i breswylio àr holl wyneb y ddaiar; wedi nodi allan yr amseroedd rhagdrefnedig, a therfynau eu preswylfëydd hwynt; fel y ceisient yr Arglwydd, os gallant ymbalfalu am dano ef, a’i gael; èr nad yw efe nebpell oddwrth bob un o honom; oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; fel y dywedodd rhai o’ch beirdd chwi eich hunain, – “Canys ei hiliogaeth ef ydym ni.” Gàn ein bod ni, gàn hyny, yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybied bod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, wedi ei weithio drwy gelfyddyd a dyfais dyn. Canys èr bod Duw gwedi edrych heibio i amseroedd yr anwybodaeth hwn, y mae efe yr awrhon yn gwneuthur cyhoeddiad i bob dyn yn mhob man, i ddiwygio; o herwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder drwy y Gwr à arbènododd efe; o’r hyn y rhoddes efe sicrwydd i bawb, drwy ei gyfodi ef oddwrth y meirw. A phan glywsant son am adgyfodiad y meirw, cellwair á wnaeth rhai, ac ereill á ddywedasant, Ni á’th wrandaẅwn darchefn àr y mater hwn. A felly yr aeth Paul allan o’u canol hwynt. Er hyny, rhai gwŷr á lynasant wrtho, ac á gredasant: yn mhlith y rhai yr oedd Dionysius, yr Areopagiad, a gwraig, a’i henw Damaris; ac ereill gyda hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help