1-6Ac arwydd mawr á ymddangosodd yn y nef – gwraig, wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad dan ei thraed, ac àr ei phen goron o ddeg a dwy seren; a hi yn feichiog, á lefodd, gàn fod mewn gwewyr, a gofid i esgor. Ac arwydd arall á ymddangosodd yn y nef; ac wele! ddraig fawr danllyd, â chanddi saith ben a deg corn, ac àr ei phènau saith goron. A’i chynffon hi á dỳnodd draian ser y nef, ac á’u bwriodd hwynt i’r ddaiar: a’r ddraig á safodd gèr bron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor, i ddifa ei phlentyn hi, pan esgorai hi arno. A hi á esgorodd àr fab gwryw, yr hwn oedd i reoli yr holl genedloedd â gwialen haiarn; a’i phlentyn hi á gipiwyd i fyny at Dduw, sef at ei orseddfainc ef. A’r wraig á fföes i’r diffeithwch, lle y mae ganddi le gwedi ei barotoi gàn Dduw, fel y porthid hi yno fil a deucant a thriugain o ddyddiau.
7-17A bu rhyfel yn y nef: Michael a’i angylion á ryfelasant yn erbyn y ddraig; a’r ddraig á ryfelodd a’i hangylion hithau; èr hyny, ni orfuant, a lle iddynt nis cafwyd mwyach yn y nef. Ac felly y bwriwyd allan y ddraig fawr; yr hen sarff, yr hon á elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo yr holl fyd, á fwriwyd allan i’r ddaiar; a’i angylion á fwriwyd allan gydag ef. A mi á glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef, Yr awrhon y daeth iechydwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, ac awdurdod ei Grist ef; oblegid cyhuddwr ein brodyr ni á fwriwyd allan, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gèr bron Duw ddydd a nos. A hwy á’i gorchfygasant ef drwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu heinioes hyd angeu. Oherwydd hyn, llawenewch y nefoedd, a’r rhai ydych yn trigo ynynt. Eithr gwae y ddaiar a’r môr; canys y diafol á ddisgynodd atoch chwi, a chanddo lid mawr, oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser. A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaiar, hi á erlidiodd y wraig à esgorasai àr y mab. A rhoddwyd i’r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i’r diffeithwch iddei lle ei hun; lle yr ydys yn ei maethu hi dros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddwrth wyneb y sarff. A’r sarff á fwriodd allan o’i safn ddwfr, megys afon, àr ol y wraig, fel y gwnai ei dwyn hi ymaith gyda’r afon: – a’r ddaiar á gynnorthwyodd y wraig; a’r ddaiar á agorodd ei safn, ac á lyncodd yr afon, yr hon á fwriodd y ddraig allan o’i safn. A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac á aeth i wneuthur rhyfel yn erbyn y gweddill o’i had hi, y rhai sydd yn cadw gorchymynion Duw, ac yn dàl tystiolaeth Iesu Grist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.