1-25Gwedi rhoi heibio, gàn hyny, bob malais, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phob goganair; fel plant bychain newydd‐eni, chwennychwch ddigymysg laeth y gair, fel y cynnyddoch drwyddo i iechydwriaeth. Oherwydd, yn wir, profi o honoch mai daionus yw yr Arglwydd; at yr hwn gàn ddyfod, megys at faen bywiol, à wrthodwyd yn wir gàn ddynion, eithr etholedig gàn Dduw, a gwerthfawr; chwithau hefyd, megys meini bywiol, á adeiladwyd yn deml ysbrydol, yn offeiriadaeth santaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy iawn gàn Dduw drwy Iesu Grist. Oherwydd paham y cynnwysir yn yr ysgrythyr, “Wele, yr wyf yn gosod yn Sïon benconglfaen, etholedig, gwerthfawr; a’r hwn á ymddiried ynddo, nis cywilyddir.” I chwi, gàn hyny, y rhai ydych yn ymddiried y mae yn werthfawr; eithr i’r annghredinwyr – yn faen à wrthodwyd gàn yr adeiladwyr, yr hwn á aeth yn ben y gongl – yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr. Y rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, ydynt annghredinwyr anufydd, i’r hyn beth, gàn hyny, y gosodwyd hwynt: eithr chychwi ydych rywogaeth etholedig, breninol offeiriadaeth, cenedl santaidd, pobl brynedigol; fel y mynegoch ragoriaethau yr hwn à’ch galwodd o dywyllwch iddei ryfeddol oleuni ef: y rhai gynt nid oeddych bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw; y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awrhon á gawsoch drugaredd. Garedigion, yr wyf yn attolwg i chwi, megys dyeithriaid a phererinion, ymgedwch oddwrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid. Bydded eich ymarweddiad yn weddaidd yn mysg y Cenedloedd, fel, lle maent yn eich goganu megys drygweithredwyr, y gallont, wedi gweled o honynt eich gweithredoedd da chwi, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad. Ymddarostyngwch, oblegid hyn, i bob sefydliad dynol èr mwyn yr Arglwydd; pa un bynag ai i’r brenin, megys goruchaf; ai i’r llywiawdwyr, megys rhai ganddo ef wedi eu danfon èr dial, yn wir, àr y drygweithredwyr; ond èr clod i’r gweithredwyr da. Canys felly y mae ewyllys Duw, bod i chwi drwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion. Byddwch byw fel gwŷr rhyddion, ond na fydded eich rhyddid genych megys gorchudd i ddrygioni; eithr fel gwasanaethwyr Duw. Perchwch bawb: cerwch y brawdoliaeth: ofnwch Dduw: anrhydeddwch y brenin. Y gweision, byddwch ddarostyngedig gyda phob ofn i’ch meistriaid; nid yn unig i’r rhai da a hynaws, eithr i’r rhai anhynaws hefyd. Canys hyn sy gymeradwy, os yw neb, oherwydd cydwybod i Dduw, yn dwyn tristwch, gàn ddyoddef àr gam. Eithr pa glod y sy, os, pan bechoch a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? Eto os, â chwi yn gwneuthur yn dda, ac yn dyoddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sy gymeradwy gàn Dduw. Heblaw hyny, i hyn ych galwyd; oblegid Crist yntau á ddyoddefodd drosom ni, gàn adael i ni gynllun, fel y canlynech ei ôl ef; yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau: yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddyoddefodd, ni fygythiodd, eithr rhoddodd àr y neb sydd yn barnu yn gyfiawn; – yr hwn ei hun á ddyg ein pechodau ni yn ei gorff àr y pren: fel, wedi ein rhyddâu oddwrth bechodau, y byddem byw i gyfiawnder; drwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi. Canys yr oeddych megys defaid yn myned àr gyfeiliorn, eithr yn awr á ddychwelwyd at Fugail ac Arolygwr eich eneidiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.