1-16Ofnwn, gàn hyny, gàn fod addewid wedi ei gadael i ni, i fyned i fewn iddei orphwysfa ef, rhag bod neb o honoch yn debyg i fod yn ol. Canys i ninnau y cyhoeddwyd newydd da, megys ag iddynt hwythau: eithr y gair à glywsant ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai à’i clywsant. Canys yr ydym ni, y rhai á gredasom, yn myned i fewn i’r orphwysfa, megys y dywedodd efe, “Fel y tyngais yn fy llid, Nid ant i fewn i’m gorphwysfa i;” sef, oddwrth y gweithredoedd à orphenwyd pan luniwyd y byd. Canys efe á ddywedodd mewn man am y seithfed dydd, fel hyn: “A gorphwysodd Duw y seithfed dydd oddwrth ei holl weithredoedd.” Ac yma drachefn, “Ni chant fyned i fewn i’m gorphwysfa i.” Gàn ei fod wedi ei adael, gàn hyny, bod rhai yn myned i fewn iddi, ac nad aeth y rhai y cyhoeddwyd y newydd da yn gyntaf iddynt i fewn oherwydd annghrediniaeth; – drachefn y mae efe yn pènu rhyw ddiwrnod, gàn ddywedyd drwy Ddafydd, “Heddyw,” àr ol cymaint o amser; megys y dywedir, “Heddyw, os gwrandewch àr ei leferydd ef, na chaledwch eich calonau.” Canys pe dygasai Iosuwa hwynt i orphwysfa, ni soniasai efe, àr ol hyny, am ddiwrnod arall. Y mae, gàn hyny, orphwysfa ddwyfol yn ol i bobl Dduw. Canys y neb á aeth i fewn iddei orphwysfa ef, hwnw hefyd á orphwysodd oddwrth ei weithredoedd ei hun, megys y gwnaeth Duw oddwrth yr eiddo yntau. Ymdrechwn yn ddyfal, gàn hyny, i fyned i fewn i’r Orphwysfa hon, rhag syrthio o neb, yn ol yr un siampl o annghrediniaeth. Canys bywiol yw gair Duw a nerthol, a llymach nag un cleddyf deufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, a’r cymalau a’r mêr, ac yn barnu meddyliau a bwriadau y galon. A nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef, oblegid pob peth sydd yn noeth ac yn agored iddei lygaid ef, i’r hwn y mae yn raid i ni roddi cyfrif. Gan fod, wrth hyny, i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn á aeth drwy y nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes. Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cydymdeimlo â’n gwendidau ni; eithr un wedi ei brofi yn mhob peth, yn ol cyffelybrwydd ei naturiaeth i’r eiddom ni, heb bechod. Am hyny, awn yn hyderus at orseddfainc y rhad, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom rad yn gymhorth cyfamserol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.