Gweithredoedd 25 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-12Ffestus, gàn hyny, gwedi dyfod i’r dalaeth, àr ol tri diwrnod, á aeth i fyny o Gaisarea i Gaersalem; a’r archoffeiriad a’r rhai pènaf yn mhlith yr Iuddewon, á ymddangosasant gèr ei fron ef yn erbyn Paul, ac á ddeisyfasant arno ddanfon am dano ef i Gaersalem; gàn wneuthur cynllwyn iddei ladd ef àr y ffordd. Eithr Ffestus á atebodd, y cedwid Paul yn Nghaisarea, ac y cychwnai efe ei hun yno àr fyrder: am hyny, meddai efe, y sawl o honoch à sydd alluog, aent i waered gyda mi; ac od oes dim drwg yn y dyn hwn, cyhuddant ef. A gwedi iddo aros gyda hwynt dros ddeng niwrnod, efe á aeth i waered i Gaisarea; a thranoeth, wedi eistedd o hono àr y frawdfainc, efe á archodd ddwyn Paul ato. A gwedi iddo ddyfod, yr Iuddewon, à ddaethent i waered o Gaersalem, á safasant o amgylch, gán ddwyn llawer o guhuddiadau trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi; ac yntau yn ei amdiffyn ei hun, – Ni throseddais i ddim, nac yn erbyn cyfreithiau yr Iuddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Caisar. Eithr Ffestus, yn ewyllysio ennill bodd yr Iuddewon, á atebodd Baul ac á ddywedodd, A fỳni di fyned i fyny i Gaersalem, i gael dy farnu yno gèr fy mron i, am y pethau hyn? Ond Paul á ddywedodd, O flaen brawdfainc Caisar yr wyf fi yn sefyll, lle y dylwn gael fy marnu. Ni wnaethym i ddim cam â’r Iuddewon, megys y gwyddost ti yn dda. Canys, yn wir, os gwnaethym i gam, neu os cyflawnais ddim yn haeddu angeu, nid wyf yn gwrthod marw; eithr os nad oes yr un weithred y cyhuddant fi o honi, ni ddichon neb fy rhoddi i fyny èr eu boddio hwy! Yr wyf fi yn apelio at Gaisar. Yna Ffestus, wedi ymddyddan â’r cynghor, á atebodd, A ddarfu i ti apelio at Gaisar? At Gaisar y cai di fyned.

13-22A gwedi i rai dyddiau fyned heibio, Agrippa y brenin a Bernice, á ddaethant i Gaisarea, i gyfarch Ffestus. A fel yr oeddynt yn aros yno lawer o ddyddiau, Ffestus á osododd o flaen y brenin achos Paul, gàn ddywedyd, Y mae yma ryw wr wedi ei adael gàn Ffelics yn ngharchar; am yr hwn, pan oeddwn yn Nghaersalem, y darfu i archoffeiriaid a henuriaid yr Iuddewon, hysbysu i mi, gàn ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef. I’r rhai yr atebais, nad arfer y Rhufeiniaid yw traddodi unrhyw ddyn, nes i’r cyhuddedig gael ei gyhuddwyr yn ei wyneb, a chael cyfle i amdiffyn ei hun rhag y cyhuddiad à osodir yn ei erbyn. Wedi eu dyfod hwy yma, gàn hyny, myfi, yn ddioed, á eisteddais àr y frawdfainc dranoeth, ac á orchymynais ddwyn y gwr gèr bron. Yn erbyn yr hwn, pan safai y cyhuddwyr i fyny, ni ddygasant ddim achwyn o’r pethau yr oeddwn i yn tybied; ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ddadleuon yn nghylch eu crefydd eu hunain, ac yn nghylch un Iesu, à fuasai farw, yr hwn y taerai Paul ei fod yn fyw. Ond gàn fy mod yn petruso am y ddadl yn ei gylch ef, mi á ddywedais, os oedd efe yn ewyllysio, y cai fyned i Gaersalem, a’i farnu yno am y pethau hyn. Ond wedi i Baul apelio am gael ei gadw i arholiad ei fawrydi, mi á erchais ei gadw hyd oni allwn ei ddanfon ef at Gaisar. Yna y dywedodd Agrippa wrth Ffestus, Minnau á ewyllysiwn glywed y dyn fy hun. Yntau á ddywedodd, Ti á gai ei glywed ef y fory.

23-27Tranoeth, gàn hyny, gwedi dyfod Agrippa a Bernice, gyda rhwysg mawr, a myned i fewn i’r wrandawfa, gyda chadbeniaid a phendefigion y ddinas, wrth orchymyn Ffestus, dygwyd Paul gèr bron. A Ffestus á ddywedodd, O frenin Agrippa, a chwi oll à sy gyda ni yn bresennol! chwi á welwch y dyn hwn, oblegid pa un yr ymgeisiodd holl liaws yr Iuddewon â mi, yn Nghaersalem ac yma, gàn lefain, na ddylai efe gael byw yn hwy. Ond nis gallwn ddeall iddo wneuthur dim yn haeddu angeu; èr hyny, gàn iddo ef ei hun apelio at ei fawrydi, mi á benderfynais ei ddanfon ef. Am yr hwn nid oes genyf ddim sicr iddei ysgrifenu at fy meistr: o herwydd paham, mi á’i dygais ef allan gèr eich bron chwi oll; ac yn enwedig gèr dy fron di, O frenin Agrippa! fel, wedi ei holi ef, y caffwyf ryw beth iddei ysgrifenu: oblegid ymddengys i mi yn beth afresymol, anfon carcharor, heb hysbysu hefyd yr achwynion à ddygir yn ei erbyn ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help