Ioan 19 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-7Yna Pilat á berodd iddo gael ei fflangellu. A’r milwyr á’i coronasant ef â thorch o ddrain, yr hon á blethasant; a gwedi iddynt roi mantell borphor am dano ef, á ddywedasant, Hanbych well! Brenin yr Iuddewon! ac á roisant iddo gernodiau. Pilat á aeth allan drachefn, ac á ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai. Yna yr aeth Iesu allan, yn gwisgo y goron ddrain a’r fantell borphor, a Philat á ddywedodd wrthynt, Wele y dyn! Yr archoffeiriaid a’r swyddogion pan welsant ef, á lefasant, gàn ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef! Pilat á ddywedodd wrthynt, Cymerwch ef eich hunain, a chroeshoeliwch ef; o’m rhan fy hun, nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. Yr Iuddewon á atebasant, Y mae genym ni gyfraith, ac wrth y gyfraith hòno efe á ddylai farw, am iddo gymeryd arno yr enwawd Mab Duw.

8-12Pan glybu Pilat hyn, efe á ofnodd yn fwy; a gwedi iddo ddychwelyd i’r dadleudy, efe á ddywedodd wrth Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes Iesu ateb iddo. Yna Pilat á ddywedodd wrtho, A wnai di ddim siared â mi? Oni wyddost ti bod genyf awdurdod i dy groeshoelio di, ac awdurdod i dy ollwng yn rydd? Iesu á atebodd, Ni chawsit ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod; am hyny yr hwn à’m traddodes i ti, sy fwy ei bechod. O’r pryd hwnw y ceisiodd Pilat ei ollwng ef yn rydd; ond yr Iuddewon á lefasant, Os gollyngi di hwn yn rydd, nid wyt ti yn gyfaill i Gaisar. Pwybynag á eilw ei hun yn Frenin, sydd yn gwrthwynebu Caisar.

13-16Pilat, pan glybu y geiriau hyn, á berodd ddwyn Iesu allan, ac á eisteddodd àr y frawdfainc, mewn lle à elwir Y Palmant, yn Hebraeg, Gabbatha. (A darparwyl Seibiaeth y Pasc oedd hi, yn nghylch y chwechfed awr.) Ac efe á ddywedodd wrth yr Iuddewon, Wele eich Brenin. Eithr hwy á lefasant, Ymaith, ymaith ag ef; croeshoelia ef. Pilat á ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? Yr archoffeiriaid á atebasant, Nid oes i ni frenin ond Caisar. Yntau, gàn hyny, á’i traddodes ef iddynt iddei groeshoelio.

17-22Yna hwy á gymerasant Iesu, ac á’i dygasant ymaith. Ac efe, gàn ddwyn ei groes, á aeth allan i le à elwid Y Benglogfa, yr hwn yn Hebraeg yw, Golgotha, lle y croeshoeliasant ef a dau ereill gydag ef, un o bob tu, ac Iesu yn y canol. Pilat hefyd á ysgrifenodd graifft, ac á’i dododd àr y groes. Y geiriau oeddynt, Iesu y Nasarethiad, Brenin yr Iuddewon. A llawer o’r Iuddewon á ddarllenasant y graifft hon, (oblegid yr oedd y fàn lle y croeshoeliwyd Iesu yn agos i’r ddinas) ac yr oedd wedi ei hysgrifenu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin. Yna yr archoffeiriaid á ddywedasant wrth Bilat, Nac ysgrifena, Brenin yr Iuddewon; ond Yr hwn á eilw ei hun yn Frenin yr Iuddewon. Pilat a atebodd, Yr hyn à ysgrifenais, á ysgrifenais.

23-24Gwedi i’r milwyr hoelio Iesu wrth y groes, hwy á gymerasant ei fantell ef, ac á’i rhànasant yn bedair rhan, un i bob milwr; cymerasant y bais hefyd, yr hon oedd ddiwniad, wedi ei gwau o’r cẁr uchaf drwyddi oll, ac á ddywedasant wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, ond penderfynwn wrth goelbren, eiddo pwy fydd hi; drwy hyny yn gwireddu yr ysgrythýr à sydd yn dywedyd, “Rhànasant fy mantell yn eu mysg, ac am fy ngwisg y bwriasant goelbrèni.” Fel hyn, gàn hyny, y gwnaeth y milwyr.

25-27Ac yr oedd yn sefyll wrth groes Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleopas, a Mair y Fagdalëad. Yna Iesu, pan welai ei fam, a’r dysgybl yr hwn á garai efe, yn sefyll gerllaw, á ddywedodd wrth ei fam, Wraig, wele dy fab. Yna y dywedodd efe wrth y dysgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr hono y cymerodd y dysgybl hi iddei gartref ei hun.

28-30Gwedi hyny, Iesu, (yn gwybod fod pob peth wedi ei orphen weithian,) fel y cyflawnid yr ysgrythyr, á ddywedodd, Y mae syched arnaf. Gan fod yno lestr yn llawn o winegr, hwy á lanwasant ysbwng o winegr, a gwedi ei gylymu wrth frigyn o isop, á’i daliasant wrth ei enau ef. Wedi i Iesu gymeryd y gwinegr, efe a ddywedodd, Gorphenwyd; a chàn ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny ei ysbryd.

31-37Yr Iuddewon, gàn hyny, rhag i’r cyrff aros àr y groes àr y Seibiaeth, canys darparwyl oedd hi, (a’r Seibiaeth hwnw oedd ddiwrnod mawr,) á ddeisyfasant àr Bilat gael tòri eu hesgeiriau hwynt, a symud y cyrff. Yn ganlynol y milwyr á ddaethant, ac á dòrasant esgeiriau y cyntaf, a’r llall à groeshoeliasid gydag ef. Ond wedi iddynt ddyfod at Iesu, a chanfod ei fod wedi marw eisoes, ni thòrasant ei esgeiriau ef. Ond un o’r milwyr, â gwaewffon, á wànodd ei ystlys ef, o’r hon yn y fàn y daeth allan waed a dwfr. Yr hwn sydd yn tystiolaethu hyn oedd lygad‐dyst, ac y mae ei dystiolaeth yn gredadwy: ïe, y mae efe yn ymwybodol ei fod yn dywedyd gwirionedd, fel y credoch chwi. Canys y pethau hyn á wnaethwyd, fel y gwireddid yr ysgrythyr, “Ni thòrir asgwrn o hono.” Trachefn, yr ysgrythyr mewn lle arall sydd yn dywedyd, “Hwy á edrychant àr yr hwn à wànasant.”

DOSBARTH XII.Yr Adgyfodiad.

38-42Ar ol hyn, Ioseph yr Arimathëad, yr hwn oedd ddysgybl i Iesu, ond dysgybl dirgeledig rhag ofn yr Iuddewon, á ofynodd gènad gàn Bilat i gymeryd ymaith gorff Iesu; yr hyn wedi i Bilat ganiatâu iddo, efe á aeth ac á ddyg ymaith gorff Iesu. Nicodemus hefyd, yr hwn gynt á ddaethai at Iesu o hyd nos, á ddaeth, ac á ddyg gymysg o fyr ac aloes, tua chann pwys. Y rhai hyn á gymerasant gorff Iesu, ac á’i troisant mewn amlieiniau, gyda ’r peraroglau, yr hwn yw y dull Iuddewig o berarogli. Ac yn y fangre lle y croeshoeliwyd ef, yr oedd gardd, a thomawd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed. Yno y dodasant Iesu, o achos darparwyl yr Iuddewon, gàn fod y tomawd yn agos.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help