1-3 Dadguddiad oddwrth Iesu Grist, yr hwn á roddes Duw iddo ef, i ddangos iddei weision y pethau sy raid eu dyfod i ben àr fyrder; a chan ddanfon drwy ei genad, efe á’u hysbysodd iddei was Ioan, yr hwn á dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, pa bethau bynag á welodd. Dedwydd yw yr hwn sydd yn darllen, a’r rhai sydd yn gwrandaw geiriau y brophwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau y sydd ysgrifenedig ynddi; canys y mae yr amser yn agos.
4-6Ioan at y saith gynnulleidfa y sydd yn Asia; rhad a thangnefedd fyddo i chwi, oddwrth yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd àr ddyfod; ac oddwrth y saith ysbryd sydd ger bron ei orseddfainc ef; ac oddwrth Iesu Grist, y tyst ffyddlawn, cyntafanedig y meirw, a llywiawdwr breninoedd y ddaiar; iddo ef yr hwn á’n carodd ni, ac á’n golchodd ni oddwrth ein pechodau yn ei waed ei hun, ac á’n gwnaeth ni yn freninoedd ac yn offeiriaid iddei Dduw a’i Dad ef; iddo ef y byddo gogoniant ac arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen.
7-8Wele, y mae efe yn dyfod yn y cymylau; a phob llygad á’i gwel ef, hyd y nod y rhai à’i gwanasant ef: a holl lwythau y ddaiar á alarant o’i blegid ef. Ië: felly y bo. Myfi yw yr Alpha a’r Omega, medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.
9-16Myfi, Ioan, eich brawd, a’ch cydymmaith yn nhrallod a theyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys à elwir Patmos, èr mwyn gair Duw, ac oherwydd tystiolaeth Iesu Grist. Yr oeddwn i yn yr Ysbryd àr ddydd yr Arglwydd, ac á glywais, o’r tu ol i mi, lais mawr fel llais udgorn, yn dywedyd, “Yr hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifena mewn llyfr, a danfon i’r saith gynnulleidfa; i Ephesus, ac i Smyrna, ac i Bergamos, ac i Thyatira, ac i Sardis, ac i Phaladelphia, ac i Laodicea.” A mi á droais i weled y llais à lefarai wrthyf; a gwedi i mi droi, mi á welais saith o lampau aur; ac yn nghanol y saith lamp, un tebyg i Fab Dyn, wedi ei wisgo â gwisg laes hyd ei draed, a gwedi ei wregysu yn nghylch ei fronau â gwregys aur. Ei ben ef, sef ei wallt, oedd wyn fel gwlan, cyn wỳned a’r eira; a’i lygaid oeddynt fel fflam dan; a’i draed fel pres coeth, pan yn wynias mewn ffwrn; a’i lais fel llais dyfroedd lawer; ac yr oedd ganddo yn ei law ddëau saith seren, ac o’i enau yr oedd cleddyf llym deufiniog yn dyfod allan; ac yr oedd ei wynebpryd fel yr haul, pan y bo yn dysgleirio yn ei nerth.
17-20A phan welais ef, mi á syrthiais wrth ei draed ef fel marw; ac yntau á osododd ei law ddëau arnaf fi, ac á ddywedodd, Nac ofna; myfi yw y Cyntaf a’r Diweddaf; yr hwn wyf fyw, ac á fum farw; ac wele byw ydwyf yn oes oesoedd; ac y mae genyf agoriadau y byd anweledig a marwolaeth. Ysgrifena y pethau à weli, sef y pethau sydd, a’r pethau á fydd àr ol hyn. Am ystyr dirgeledig y saith seren à weli yn fy llaw ddëau, a’r saith lamp aur: y saith seren cenadon y saith gynnulleidfa ydynt; a’r saith lamp à welaist, saith gynnulleidfa ydynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.