1-11Ar ol y pethau hyn, mi edrychais, a wele, ddrws wedi ei agoryd yn y nef: a’r llais cyntaf à glywais, oedd fel llais udgorn yn ymddyddan â mi; a fe á ddywedodd, Dring i fyny yma, a mi á ddangosaf i ti beth á fydd ar ol hyn. Ac yn y man yr oeddwn yn yr ysbryd: a wele, yr oedd gorseddfainc wedi ei gosod yn y nef, ac un yn eistedd arni; a’r hwn oedd yn eistedd arni, oedd yn debyg yr olwg arno i faen iaspis a sardin; ac yr oedd enfys o amgylch yr orseddfainc, yn debyg yr olwg arni i smaragdus. Ac o gylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar ugain; ac àr y gorseddfeinciau, bedwar henuriad àr ugain yn eistedd wedi eu gwisgo mewn dillad gwỳnion; ac àr eu pènau goronau aur. Ac yr oedd yn dyfod allan o’r orseddfainc fellt, a tharanau, a lleisiau. Ac yr oedd saith o lampau tân yn llosgi gèr bron yr orseddfainc, y rhai yw saith Ysbryd Duw. Ac o flaen yr orseddfainc yr oedd môr o wydr, yn debyg i grisial. Ac yn nghanol yr orseddfainc, yn y cylch o amgylch yr orseddfainc, yr oedd pedwar anifel, yn llawn o lygaid, o’r tu blaen ac o’r tu ol. A’r anifel cyntaf oedd debyg i lew; a’r ail anifel yn debyg i lo; a’r trydydd anifel oedd ganddo wyneb fel dyn; a’r pedwerydd anifel oedd debyg i eryr yn ehedeg. A’r pedwar anifel oedd ganddynt, bob un o honynt, chwech o adenydd o’u hamgylch: ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid ydynt yn gorphwys, na dydd na nos, gàn ddywedyd, Sant, sant, sant, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn oeddit, a’r hwn wyt, a’r hwn wyt i ddyfod. A thra y mae yr anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a diolch, i’r hwn sydd yn eistedd àr yr orseddfainc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, y mae y pedwar henuriad àr ugain yn syrthio gèr bron yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac yn addoli yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, ac yn bwrw eu coronau gèr bron yr orseddfainc, gàn ddywedyd, Teilwng wyt, O Arglwydd, i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu; canys ti á greaist bob peth, ac oherwydd dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.