Matthew Lefi 1 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

RHAGYMADRODD MATTHEW.

1Hanes Iesu Grist, mab Dafydd, mab Abraham.

DOSBARTH I.Y Genedigaeth.

2-17 Abraham á genedlodd Isaac. Isaac á genedlodd Iacob. Iacob á genedlodd Iuwda a’ i frodyr. Iuwda á gafodd Phares a Zara o Damar. Phares á genedlodd Esrom. Esrom á genedlodd Aram. Aram a genedlodd Aminadab. Aminadab á genedlodd Nashon. Nashon á genedlodd Salmon. Salmon á gafodd Böaz o Rahab. Böaz á gafodd Obed o Ruwth. Obed á genedlodd Iesse. Iesse á genedlodd Ddafydd frenin. Dafydd frenin á gafodd Solomon o’r hon à fuasai wraig Uwria. Solomon á genedlodd Rehoboam. Rehoboam á genedlodd Abia. Abia á genedlodd Asa. Asa á genedlodd Iehosophat. Iehosophat á genedlodd Ioram. Ioram á genedlodd Uwzzia. Uwzzia á genedlodd Iotham. Iotham á genedlodd Ahaz. Ahaz á genedlodd Hezecia. Hezecia á genedlodd Fanasse. Manasse á genedlodd Amon. Amon á genedlodd Iosia. Iosia á gafodd Iechonia a’ i frodyr, yn nghylch amser y mudiad i Fabilon. Wedi y mudiad i Fabilon, Iechonia á genedlodd Salathiel. Salathiel á genedlodd Zerubbabel. Zerubbabel á genedlodd Abiwd. Abiwd á genedlodd Eliacim. Eliacim á genedlodd Azor. Azor á genedlodd Zadoc. Zadoc á genedlodd Achim. Achim á genedlodd Eliwd. Eliwd á genedlodd Eleazar. Eleazar á genedlodd Matthan. Matthan á genedlodd Iacob. Iacob á genedlodd Ioseph, gwr Mair, o’r hon y ganwyd Iesu, yr hwn á elwir Crist. Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Ddafydd ydynt bedairarddeg; o Ddafydd hyd y mudiad i Fabilon, pedairarddeg; ac o’r mudiad i Fabilon, hyd y Messia, pedairarddeg.

18-25A genedigaeth Iesu Grist á ddygwyddodd fel hyn: Mair ei fam ef á ddyweddiasid â Ioseph: ond cyn eu dyfod yn nghyd, hi á gafwyd yn feichiog o’r Ysbryd Glan. Ioseph ei gŵr hi, gan ei fod yn ddyn rhinweddol, ac yn anfoddlon iddei gwaradwyddo hi, á fwriadai ei hysgaru hi yn ddirgel. Ond tra y meddyliai efe am hyn, angel i’r Arglwydd á ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, ac á ddywedodd, Ioseph, mab Dafydd, na phetrusa gymeryd adref Mair dy wraig; canys ei beichiogiad sydd oddwrth yr Ysbryd Glan. A hi á esgor àr fab, yr hwn á elwi Iesu, oblegid efe á wared ei bobl oddwrth eu pechodau. Yn hyn oll, gwireddwyd yr hyn à ddywedasai yr Arglwydd drwy y Proffwyd, “Wele y forwyn á feichioga, ac á esgor àr fab, yr hwn á elwir Immanwel;” yr hyn sydd yn arwyddocâu, Duw gyda ni. Pan ddeffroes Ioseph, efe á wnaeth fel y gorchymynasai cènad yr Arglwydd iddo, ac á gymerodd adref ei wraig; ond nid adnabu efe hi, hyd oni esgorasai hi àr ei mab cyntafanedig, yr hwn á enwodd efe Iesu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help