1-11A feiddia neb o honoch, a chanddo fater yn erbyn arall, gymeryd ei farnu gàn y rhai annghyfiawn, a nid gàn y saint? Oni wyddoch chwi bod y saint i farnu y byd? Ac os yw y byd i gael ei farnu genych, a ydych chwi yn annheilwng i benderfynu y pethau lleiaf? Oni wyddoch chwi ein bod ni i farnu cènadau? Pa faint mwy, ynte, y pethau à berthynant i’r bywyd hwn? Od oes, gàn hyny, awdurdod genych i benderfynu pethau à berthynant i’r bywyd hwn, a ydych chwi yn gosod y rhai hyny i farnu nad ydynt o ddim cyfrif yn y gynnulleidfa? Er cywilydd i chwi yr wyf yn ei ddywedyd! Felly, gàn hyny, nid oes neb doeth yn eich plith; nac oes gymaint ag un, yr hwn á fedro farnu rhwng ei frodyr! Ond brawd yn nghyd a brawd á fernir, a hyny gàn rai digred! Yn awr, gàn hyny, yn wir, y mae yn amlwg ddiffyg ynoch, eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn cymeryd eich colledu? Ond yr ydych chwi yn gwneuthur cam, a hyny â’ch brodyr, ac yn eu colledu hwynt. Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai annghyfiawn etifeddu teyrnas Duw? Na thwyller chwi; ni chaiff na phuteinwyr, nac eilunaddolwyr, na godinebwyr, na masweddwyr, na gwrywgydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeiliwyr, etifeddu teyrnas Duw. A hyn fu rhai o honoch chwi; eithr chwi á olchwyd, eithr chwi á santeiddiwyd, eithr chwi á gyfiawnâwyd, drwy enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.
12-20Pob bwyd sy gyfreithlawn i mi iddei fwyta, ond nid yw pob bwyd yn addas: pob bwyd sy gyfreithlawn i mi iddei fwyta; eithr ni ’m dygir i yn gaeth gàn nebrhyw fwyd. Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw á’i dinystria fo a hwythau. A’r corff ni wnaed i aflendid, ond i’r Arglwydd, a’r Arglwydd i’r corff: a Duw á gyfododd yr Arglwydd, ac á’n cyfyd ninnau drwy ei allu ei hun. Oni wyddoch chwi bod eich cyrff yn aelodau i Grist? A gymeraf fi, gàn hyny, aelodau Crist a’u gwneuthur yn aelodau puten? Na ato Duw. Beth! oni wyddoch chwi bod yr hwn sydd yn ymgysylltu â phuten yn un cnawd? canys efe á ddywed, “Y ddau fyddant un cnawd.” Ond yr hwn sydd yn ymgysylltu â’r Arglwydd, sydd un ysbryd. Gochelwch aflendid. Pob pechod à wnelo dyn, oddi allan iddei gorff y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur aflendid, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. Beth! oni wyddoch chwi bod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glan, yr hwn sydd ynoch, yr hwn sy genych oddwrth Dduw? Hefyd, nid eiddoch eich hunain ydych; oblegid èr gwerth y prynwyd chwi: gogoneddwch Dduw, gàn hyny, â’ch corff.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.