1-13Pe medrwn lefaru â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod genyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian. A phe byddai genyf broffwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai genyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb genyf gariad, nid wyf fi ddim. A phe treuliwn fy holl dda wrth borthi y tylodion, a phe rhoddwn fy nghorff i’m llosgi, ac heb gariad genyf, nid yw ddim llesâad i mi. Y mae cariad yn hirymaros, ac yn gymwynasgar. Nid yw cariad yn cenfigenu. Nid yw cariad yn ymffrostio; nid yw yn ymchwyddo; nid yw yn ymddwyn yn anweddaidd; nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun; ni chythruddir; nid yw yn dychymygu drwg; nid yw lawen am annghyfiawnder, ond yn mawrlawenâu yn y gwirionedd: y mae yn cuddio pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn goddef pob dim. Cariad byth ni phalla: eithr, pa un bynag ai proffwydoliaethau, hwy á ballant; ai tafodau dyeithr, hwy á beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflana. Canys o ran yn unig y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo. Eithr pan ddelo perffeithrwydd, yna yr hyn sydd o ran á ddileir. Pan oeddwn blentyn, fel plentyn y llefarwn, fel plentyn y deallwn, fel plentyn y rhesymwn. Ond pan aethym yn ddyn, mi á roddais heibio bethau plentynaidd. Canys gweled yr ydym yn awr drwy ddrych yn aneglur; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna y cyflawn‐adnabyddaf, megys ym cyflawn‐adwaenir. Yn awr y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn: ond y mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.