1-17Gwybydd hyn hefyd, y bydd amseroedd enbyd yn y dyddiau à ddaw. Canys bydd dynion yn hunangar, yn ariangar, yn ffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufyddion i rieni, yn anniolchgar, yn annuwiol, yn ddianianserch, yn dòrwyr ammod, yn enllibwyr, heb allu eu llywodraethu eu hunain, yn anfwyn, yn anngharu dynion da, yn fradwyr, yn waedwyllt, yn chwyddedig, yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw; â chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi. A’r rhai hyn gochel di. O’r rhai hyn, yn wir, y mae y rhai sydd yn myned i fewn i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, yn cael eu harwain gàn amryw chwantau; yn dysgu bob amser, ond heb allu dyfod unamser i wybodaeth y gwirionedd. A megys y safodd Iannes ac Iambres yn erbyn Moses, felly y mae y rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd; dynion llwyrlygredig o feddwl, yn annghymeradwy o ran y ffydd. Eithr nid ant rhagddynt yn mhellach; canys eu hynfydrwydd á fydd dräeglur i bawb, megys y bu yr eiddynt hwythau. Eithr ti á lwyradnabuost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, fy ffydd, fy nyoddefgarwch, fy nghariad, fy amynedd, fy erlidiau, fy nyoddefiadau, y rhai á ddygwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lystra: pa erlidiau á ddyoddefais; eithr allan o honynt oll ym gwaredodd yr Arglwydd. A phawb, yn wir, y sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yn Nghrist Iesu, á erlidir: eithr dynion drygionus a thwyllwyr á ant rhagddynt waethwaeth, gàn dwyllo a chael en twyllo. Eithr aros di yn y pethau à ddysgaist, ac á ymddiriedwyd i ti am danynt, gàn wybod gàn bwy y dysgaist hwynt; ac, i ti èr yn fachgen wybod yr ysgrifeniadau glân, y rhai á ddichon dy wneuthur di yn ddoeth i iechydwriaeth, drwy y ffydd sydd yn Nghrist Iesu. Yr holl ysgrythyr, wedi ei rhoddi gàn ddwyfol ysbrydoliaeth, sydd yn wir yn fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: fel y byddo gwr Duw yn berffaith – wedi ei berffaith‐gymhwyso i bob gwaith da.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.