Titus 2 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-15Eithr addysga di y pethau à weddant i athrawiaeth iachus: bod i hen wŷr fod yn wyliadwrus, yn weddaidd, yn bwyllig, yn iach drwy ffydd, cariad, amynedd. Bod i wragedd oedranus, yr un ffunud, fod o ran ymddygiad fel y gweddai i rai santaidd; – nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn athrawesau da; fel y darbwyllont y gwragedd ieuainc i garu eu gwŷr, i garu eu plant; – i fod yn bwyllig, yn ddiwair, yn ofalus am eu teuluoedd, yn dda, yn ddarostyngedig iddeu gwŷr priod, fel na chabler gair Duw. – Y gwŷr ieuainc, yr un ffunud, cynghora i lywodraethu eu nwydau. Gan dy wneuthur dy hun yn mhob peth yn gynllun o weithredoedd da: wrth athrawiaethu dangos anllygredigaeth, gweddeidd‐dra ymadrodd iachus yr hwn nis gellir beio arno; fel y bo i’r wrthblaid gywilyddio, heb fod ganddo ddim drwg iddei ddywedyd am danoch chwi. Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig iddeu meistraid eu hunain, ac i ryngu bodd yn mhob peth, nid yn gwrthddywedyd, nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da, fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr yn mhob peth. Canys ymddangosodd rhad Duw, yr hwn sydd yn dwyn iechydwriaeth, i bob dyn, gàn ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awrhon; – gàn ddysgwyl am y gobaith gwynfydedig, sef ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, sef ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr hwn á’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddwrth bob anwiredd, a phuro iddo ei hun bobl briodol, awyddus i weithredoedd da. Y pethau hyn addysga, a chynghora ac argyhoedda gyda phob awdurdod; na ddiystyred neb di.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help