2 Thessaloniaid 3 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-5Bellach, frodyr, gweddiwch drosom ni, àr fod i air yr Arglwydd redeg, a chael ei goroni, megys gyda chwithau. Ac àr fod i ni gael ein gwaredu oddwrth ddynion anhywaith a drygionus; canys nid oes ffyddlondeb gàn bawb. Eithr ffyddlawn yw yr Arglwydd, yr hwn á’ch cadarnâa chwi, ac a’ch ceidw rhag y fall. Canys y mae genym hyder yn yr Arglwydd am danoch, eich bod yn gwneuthur, ac y gwnewch, y pethau yr ydym yn eu gorchymyn i chwi. A’r Arglwydd á gyfarwyddo eich calonau chwi at gariad Duw, ac i amynedd Crist.

6-18Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, drwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, gilio o honoch ymaith oddwrth bob brawd, y sydd yn rhodio yn afreolus, a nid yn ol y traddodiad a dderbyniodd efe genym ni. Oblegid gwyddoch eich hunain, pa fodd y dylech ein dilyn ni; – na rodiasom yn afreolus yn eich plith chwi; na fwytasom chwaith fara yn rhodd, oddwrth neb; ond mewn llafur a lludded, ni á weithiasom nos a dydd, fel na phwysem àr neb o honoch. Nid am nad oes genym hawl, ond fel y rhoddem ein hunain yn gynllun i chwi, idd ein dilyn. Ac am hyny, pan oeddym gyda chwi, hyn á orchymynasom i chwi, od oes neb ni fỳn weithio na fwytäed chwaith. Canys yr ydym yn clywed bod rhai eto yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus, heb weithio dim, ond yn chwiliota i orchwylion rhai ereill. Ac i’r cyfryw, gorchymyn yr ydym ac attolwg drwy ein Harglwydd Iesu Grist, àr iddynt weithio drwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain. A chwithau, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni. Ac od oes neb heb ufyddâu i’n gorchymyn yn y llythyr yma, nodwch hwnw allan, a na fydded i chwi gymdeithas âg ef, fel y cywilyddio efe. Er hyny na chymerwch ef megys gelyn, either cynghorwch ef fel brawd. Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun á roddo i chwi dangnefedd yn wastadol yn mhob modd. Yr Arglwydd á fyddo gyda chwi oll. Fy anerch i, Paul, â’m llaw fy hun, yr hyn yw yr arwydd yn mhob llythyr: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifenu. Rhad ein Harglwydd Iesu Grist á fyddo gyda chwi oll. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help