1-6Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu atoch, fel na phechoch. Eto os pechodd neb, y mae i ni ddadleuwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn. Ac y mae efe yn iawn dros ein pechodau ni; ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr hefyd dros yr holl fyd. Ac wrth hyn y gwyddom ein bod wedi ei adnabod ef, os cadwn ei orchymynion ef. Yr hwn sydd yn dywedyd, Yr wyf wedi ei adnabod ef; ac nid yw yn cadw ei orchymynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo. Eithr y neb sydd yn cadw ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw gwedi ei berffeithio. Wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef. Yr hwn à ddywed ei fod yn aros ynddo ef, á ddylai yntau felly rodio, megys ag y rhodiodd ef.
7-29Garedigion, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifenu atoch; eithr gorchymyn hen, yr hwn oedd genych o’r dechreuad. Yr hen orchymyn yw y gair à glywsoch o’r dechreuad. O’r tu arall, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifenu atoch, yr hwn sydd wir am dano ef ac am danoch chwithau. Oblegid y tywyllwch sydd yn myned heibio, a’r gwir oleuni sydd yn awr yn tywỳnu. Yr hwn á ddywed ei fod yn y goleuni, ac á gasâo ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn. Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes dramgwyddfa iddo. Eithr yr hwn sydd yn casâu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch hwnw y mae yn rhodio, ac ni wyr i ba le y mae yn myned; oblegid y mae y tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef. Ysgrifenu yr wyf atoch chwi, blant bychain, oblegid maddau i chwi eich pechodau èr mwyn ei enw ef. Ysgrifenu yr wyf atoch chwi, dadau, oblegid adnabod o honoch ef o’r dechreuad. Ysgrifenu yr wyf atoch chwi, wŷr ieuainc, am orchfygu o honoch yr un drwg. Ysgrifenu yr wyf atoch chwi, rai bychain, am i chwi adnabod y Tad. Ysgrifenais atoch chwi, dadau, oblegid adnabod o honoch ef o’r dechreuad. Ysgrifenais atoch chwi, wŷr ieuainc, am eich bod yn gryfion, a bod gair Duw yn aros ynoch, a gorchfygu o honoch yr un drwg. Na cherwch y byd, na’r pethau sydd yn y byd. O châr neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef. Canys pob beth y sydd yn y byd, – chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd, – nid yw o’r Tad, eithr o’r byd y mae. A’r byd sydd yn myned heibio, a’i chwant hefyd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn dragywydd. Blant bychain, yr amser diweddaf ydyw. A megys y clywsoch bod yr anghrist yn dyfod, felly yr awrhon y mae anghristiau lawer; wrth yr hyny gwyddom mai yr amser diweddaf ydyw. Oddwrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt o honom ni. Canys pe buasent o honom ni, hwy á arosasent gyda ni; eithr hwy á aethant ymaith, fel yr amlygid hwynt, nad oeddynt hwy oll o honom ni. Eithr y mae genych chwi eneiniad oddwrth y Santaidd hwnw, a chwi á wyddoch bob peth. Ni ysgrifenais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wybod, ac nad oes un celwydd o’r gwirionedd. Pwy yw y celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw y Crist? Efe yw yr anghrist, yr hwn sydd yn gwadu y Tad a’r Mab. Pob un sydd yn gwadu y Mab, nid yw yn addef y Tad chwaith; yr hwn sydd yn addef y Mab, y mae y Tad ganddo hefyd. – Arosed, gàn hyny, ynoch chwi yr hyn à glywsoch o’r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn à glywsoch o’r dechreuad; chwithau hefyd á gewch aros yn y Mab, ac yn y Tad: a hon yw yr addewid, à addawodd efe i ni, sef bywyd tragwyddol. Y pethau hyn á ysgrifenais atoch, yn nghylch y rhai sydd yn eich hudo; ond y mae yr eneiniad à dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi; ac nid oes arnoch eisieu dysgu o neb chwi, eithr fel y mae yr un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; a megys ych dysgodd chwi, yr aroswch ynddo. Ac yr awrhon, blant bychain, aroswch ynddo; fel, pan ymddangoso efe, y byddo hyder genym, ac na chywilyddiom gèr ei fron ef yn ei ddyfodiad. Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, chwi á wyddoch bod pob un y sydd yn gwneuthur cyfiawnder, wedi ei genedlu ganddo ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.